blog

Pythefnos Gofal Maeth

Beth yw Pythefnos Gofal Maeth?

Ymgyrch blynyddol i geisio sicrhau bod rhagor o bobl yn effro i ofal maeth, i amlygu sut mae maethu yn gwella bywydau ac annog pobl i ddysgu rhagor am faethu.

Y bwriad yw helpu cynifer o bobl ag sy’n bosib i ddeall yr angen am rieni maeth. Rydyn ni’n awyddus i bobl ddeall gwerth maethu i blant a’r effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar eu dyfodol nhw.

Eleni mae Pythefnos Gofal Maeth yn digwydd rhwng 15 a 28 Mai.

Pam mae Pythefnos Gofal Maeth yn bwysig?

Mae yna lawer o blant a phobl ifanc sydd angen harbwr diogel.

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn codi ymwybyddiaeth am yr angen am rieni/teuluoedd maeth. Mae’r achlysur yn arddangos angerdd, ymroddiad ac ymrwymiad ein rhieni maeth cyfredol a’r mathau o bobl hoffen ni gael sgwrs â nhw.

Mae’r straeon a glywch yn y newyddion am faethu yn aml yn negyddol, ond nid yw maethu yn negyddol! Mae Pythefnos Gofal Maeth yn helpu i daflu goleuni ar y straeon anhygoel am bobl go iawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a straeon llwyddiant teuluoedd maeth Cymru a phlant sy’n derbyn gofal.

Beth yw thema Pythefnos Gofal Maeth?

Thema eleni yw #CymunedauMaethu er mwyn arddangos cryfder a chydnerthedd pawb sy’n ymwneud â maethu.

Mae bod yn rhan o’r gymuned faethu yn rhoi ymdeimlad o berthyn ac yn rhwydwaith o bobl o’r un anian. Mae’r Pythefnos Gofal Maeth yn dathlu pawb sy’n rhan o’r gymuned faethu, a’r ffyrdd rydyn ni’n cydweithio i sicrhau diogelwch ac yn gofalu am blant lleol.

Sut i ddod yn rhan o bethau

Darllenwch, rhannwch, casglwch wybodaeth!

Trwy gydol y Pythefnos Gofal Maeth (a thu hwnt) rydyn ni’n eich annog chi i ddysgu am faethu a sut beth yw dod yn rhieni maeth yn eich Awdurdod Lleol chi. Mae dod yn rhieni maeth yn golygu ymrwymo i wneud pethau sy’n fuddiol i’r plant, mewn ardal maen nhw’n gyfarwydd â hi. Mae Maethu Cymru Pen-y-Bont yn sefydliad di-elw. Rydyn ni’n gwneud yr hyn sy’n fuddiol i’r plant mewn gofal a’r sawl sy’n eu cefnogi nhw.

Efallai y byddwch chi’n synnu wrth glywed pwy sy’n gallu maethu, er enghraifft does dim rhaid ichi fod yn briod na mewn perthynas. Does dim rhaid i chi berchen ar dŷ. Does dim ots os oes gennych chi anifeiliaid anwes. Mae adran gyfan yn llawn cwestiynau cyffredin, ond cysylltwch â ni os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Two young brothers eating ice cream on a park bench

Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi trefnu ‘Taith Gerdded Maethu‘, sef taith gerdded wedi’i noddi felly ymunwch os hoffech chi fod yn rhan o achlysur a chodi ymwybyddiaeth.

Y nod yw i bawb wneud taith gerdded 5km ar ddydd Sadwrn 20 Mai, i gydnabod y 70,000 o blant mewn gofal maeth yn y DU.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod y Pythefnos Gofal Maethu Facebook @FosterWalesBridgend, Instagram @FosterWalesBridgend a Twitter @MaethuPenybont.

Gallwch hefyd ddefnyddio #FCF22 a #FosteringCommunities ar gyfryngau cymdeithasol i ymuno â’r sgwrs.

Hoffwch, rhannwch a rhowch sylwadau i ledaenu’r neges am y plant, rhieni maeth, gweithwyr cymdeithasol a’r gymuned faethu yma yn Peny-y-Bont.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers