cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr byddwch chi’n cael lwfansau ariannol hael yn ogystal â chysylltiad emosiynol a pherthynas oes.

Rydyn ni’n cyfrifo swm y lwfans maethu ar sail pethau fel y math o ofal maeth rydych chi’n ei ddarparu a faint o blant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae rhai gofalwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn derbyn tâl maethu o rhwng £12,782 a £43,056 y flwyddyn, yn seiliedig ar eu hymrwymiadau gofal maeth.

manteision eraill

Ar wahân i’r gefnogaeth emosiynol a’r lwfansau, mae yna rai manteision eraill i fod yn ofalwr maeth. Os byddwch chi’n ymuno â’n tîm gofal maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fe gewch chi’r canlynol hefyd:

  • Cefnogaeth a mentora gan ofalwyr maeth profiadol drwy ein cynllun Cysylltu â
    Gofalwyr Maeth.
  • Cynlluniau gofalwyr maeth arbenigol gyda mwy o lwfansau a chefnogaeth i
    ofalwyr cyfnod pontio, rhieni a phlant a’r rheini sy’n maethu plant hŷn.
  • Aelodaeth hamdden am ddim i’;r gofalwr maeth a’i deulu cyfan, sy’n golygu eu
    bod yn gallu defnyddio campfeydd, dosbarthiadau a phyllau nofio’r Awdurdod
    Lleol.
  • Cylchlythyrau rheolaidd, gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau ar gyfer ein teuluoedd maeth a’r plant sy’n derbyn gofal yn ogystal â chyfleoedd ymgynghori rheolaidd i chi gael rhoi eich barn.
  • Ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cael eu darparu mewn ffyrdd hyblyg gan gynnwys pecyn e-ddysgu cynhwysfawr, gyda swyddog hyfforddi amser llawn ar gyfer ein gofalwyr maeth yn unig.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ac mae’r rhestr yn mynd yn ei blaen, gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’n Hymrwymiad Cenedlaethol. Dyma becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, manteision a chefnogaeth broffesiynol y mae ein tîm ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn ei gynnig.

Rydyn ni’n yn cymryd ein hyfforddiant gofal maeth o ddifri, ac os byddwch chi’n dewis ymuno â’n tîm a bod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwch ddisgwyl elwa o’r canlynol:

Two boys throwing a ball to each other

un tîm

Mae ein profiad yn dweud ein bod ni’n llwyddo pan fyddwn ni’n gweithio fel tîm i helpu i greu dyfodol gwell i’r plant yn ein hardal. Bydd eich hyfforddiant gofal maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn helaeth a heb ei ail, gan eich paratoi chi ar gyfer eich taith.

Byddwch chi’n rhan annatod o’n tîm lleol a bydd eich llais wastad yn cael ei barchu, ei gynnwys a’i werthfawrogi.

Mae bod yn rhan o’n tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn golygu eich bod yn ymuno â’r rheini sy’n bennaf gyfrifol am yr holl blant a phobl ifanc sydd angen gofal maeth yma. Byddwch chi’n helpu i’w cadw yn eu hardal leol, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau bob dydd.

Mum and two children sitting at a table

dysgu a datblygu

Mae eich datblygiad a’ch hyfforddiant yn bwysig i ni ac yma ym Maethu Cymru, mae ein fframwaith ar gyfer hyfforddiant yn becyn cyson sydd wedi’i brofi. Rydyn ni’n gwybod fod dysgu a thyfu yn rhan o’r profiad maethu ac rydyn ni’n annog hyn yn frwd.

Byddwn ni’n darparu’r offer a’r hyfforddiant cywir i feithrin eich hyder a’ch gallu, ac yn ei dro yn sicrhau eich bod chi’n diwallu anghenion y plant neu’r oedolion ifanc sydd yn eich gofal.

Mae bod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru yn golygu y bydd gennych chi eich cynllun datblygu a’ch cofnod dysgu personol eich hun a fydd yn eich helpu i gadw golwg ar eich cynnydd yn ogystal â datblygu’r sgiliau cadarn oedd gennych chi’n barod ar ddechrau eich taith.

Two brothers making a sandcastle on the beach

cefnogaeth

Mae cynnig cefnogaeth barhaus yn rhan hanfodol o’n gwaith yma ym Maethu Cymru ac ni fyddwch byth heb hynny. Rydyn ni yma i’ch helpu chi bob cam o’r ffordd.

Yn ogystal â chael eich gweithiwr cymdeithasol proffesiynol a phrofiadol eich hun wrth law i helpu, byddwch chi’n gallu manteisio ar ystod eang o grwpiau cefnogi. Rydyn ni wedi canfod bod y lefel hon o gefnogaeth gan gymheiriaid yn gwneud byd o wahaniaeth.

Mae ein tîm ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wastad wrth law pryd bynnag y byddwch chi ein hangen, hyd yn oed y tu allan i oriau swyddfa. Rydyn ni’n gwybod bod maethu’n digwydd ddydd a nos, ac mae ein cefnogaeth ni ar gael ddydd a nos hefyd.

Mam a merch yn eistedd ar y gwair

y gymuned faethu

Byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod gennych chi gysylltiad da ar hyd eich taith fel gofalwr maeth, gyda’n tîm yn ogystal â chymuned newydd sbon o ofalwyr maeth ym Mhen-y- bont ar Ogwr.

Mae ymuno â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn golygu y byddwch chi’n aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Rydyn ni’n credu bod y sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig y math cywir o gyngor, cefnogaeth, arweiniad ac ystod eang o fanteision eraill.

Ac os nad yw hyn yn ddigon, byddwn hefyd yn eich gwahodd i weithgareddau a digwyddiadau yn yr ardal leol, gan eich cyflwyno chi i deuluoedd maeth eraill. Bydd hyn yn eich helpu i greu atgofion a phrofiadau newydd.

Family playing in the sand on the beach

llunio’r dyfodol

Yma ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni’n credu mai’r peth pwysicaf i bob plentyn yn ein gofal yw eu dyfodol. Ein rôl ni, a’ch rôl chi fel gofalwr maeth ymroddedig, yw eu helpu i gael dyfodol gwych.

Rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw’r rhan rydych chi’n ei chwarae. Oherwydd hynny, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed bob amser. Nid yn unig ar lefel leol a rhanbarthol, byddwn ni hefyd yn ystyried eich safbwyntiau ar lefel genedlaethol, a byddwch chi’n helpu i ddylanwadu ar sut rydyn ni’n symud ymlaen yn gyffredinol.

Family walking away from the camera on the beach

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch â ni

  • Cyngor Pen-y bont ar Ogwr yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Pen-y bont ar Ogwr yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.