ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu ym mhen-y-bont ar ogwr?

Mae pob plentyn yn unigolyn, ac felly dylai eu gofalwr maeth fod hefyd. Rydyn ni wastad yn chwilio am unigolion unigryw a gofalgar o bob math o gefndiroedd i ymuno â’n cymuned glòs o ofalwyr maeth.

Ar hyn o bryd mae yna blant yn ein cymuned sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw. Rhywun i fod yno iddyn nhw.

Rydyn ni’n annog gofalwyr o bob cefndir – beth bynnag yw eich oedran, eich rhywioldeb neu eich statws perthynas – i ymuno â’n tîm croesawgar. Eich profiad o fywyd a’ch gallu i ofalu yw’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano.

Ddim yn siŵr a ydych chi’n gweddu? Darllenwch ein hadran mythau maethu am ragor o wybodaeth.

If you’re still unsure fostering is for you, our myth-buster may help you decide if it’s the right thing to do:

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Mae arnon ni angen gofalwyr amrywiol sydd â phrofiadau, straeon a chefndiroedd gwahanol i gyflawni rôl bwysig ym mywyd plentyn. 

O ran bod yn ofalwr maeth da, y cwbl rydyn ni’n ei ofyn yw: allwch chi wneud gwahaniaeth?

alla i faethu ym mhen-y-bont ar ogwr os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Gallwch, rydych chi’n gallu maethu a gweithio’n llawn amser, ond mae’n golygu efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi gan eich teulu a’ch ffrindiau. Dydy swydd amser llawn ddim yn eich rhwystro rhag maethu o gwbl.

Mae ymrwymo i faethu yn ymdrech tîm go iawn felly byddwch chi’n gweithio gydag athrawon, therapyddion a gweithwyr cymdeithasol – pob math o bobl, yn broffesiynol ac yn bersonol – i gyd yn eich cefnogi chi ar eich taith.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Does dim ots a ydych chi’n rhentu eich cartref neu’n berchen arno. Cyn belled â’i fod yn lle diogel i chi a phlentyn, gallwch chi faethu. Ble bynnag rydych chi’n ei alw’n gartref, byddwn ni’n gweithio i gefnogi’r ddau ohonoch.

Cyn belled â bod gennych chi ystafell sbâr, gallech chi drawsnewid eich hen le storio i fod yn rhywbeth rhyfeddol – ystafell i blentyn neu berson ifanc mewn angen.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Gallwch faethu os oes gennych chi blant yn barod – mewn gwirionedd, mae teulu mawr yn gallu bod yr union fath o amgylchedd meithringar sydd ei angen ar berson ifanc mewn gofal maeth.

Mae bod yn rhiant maeth yn golygu ymestyn eich teulu, ac agor eich cartref i’r rheini sydd ei angen.

Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu rhoi llawer o foddhad hefyd, gan ddysgu eich plant eich hun a’r plant maeth am feithrin perthnasoedd am oes.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Dydych chi byth yn rhy hen i faethu gan nad oes terfyn oedran uwch. Gallwch fod ar unrhyw adeg yn eich bywyd a bod yn ymgeisydd perffaith i helpu i ddod â pherson ifanc i’ch bywyd. Cyn belled â’ch bod chi’n gymharol ffit ac iach, rydyn ni’n eich annog i wneud cais. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Unwaith eto, does dim ffasiwn beth â bod yn rhy ifanc i fod yn ofalwr maeth ac er bod profiad bywyd yn fantais, dydy hyn ddim yn hanfodol. Gallwch chi fod yn eich 20au ac yn awyddus i helpu plentyn yn eich cymuned leol. Rydyn ni wastad yn gwneud yn siŵr bod ein rhwydwaith o weithwyr proffesiynol profiadol ar gael i’ch cefnogi chi.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Does dim rhaid i ofalwyr maeth fod mewn perthynas i allu maethu plentyn. P’un ai ydych chi mewn partneriaeth sifil, yn sengl neu’n briod, os ydych chi mewn sefyllfa i gynnig eich cartref i rywun, fe allech chi fod yn ymgeisydd gofal maeth perffaith.

Bydd ein tîm yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Wrth gwrs. Dydy eich hunaniaeth o ran rhywedd ddim yn effeithio ar eich gallu i ofalu am blentyn sydd angen cariad a chefnogaeth. Rydyn ni’n chwilio am bobl gynnes a chariadus i ymuno â’n tîm gofal maeth – felly eich natur ofalgar sy’n bwysig.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn rhwystr o ran bod yn ofalwr maeth. Yn wir, rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. Rydyn ni’n chwilio am bobl ymroddedig sy’n gallu cynnig amgylchedd diogel i helpu plentyn i dyfu, ac mae hynny’n cynnwys unigolion LGBTQ+.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Gallwch faethu os oes gennych chi gi, cath neu unrhyw anifail anwes arall. Rydyn ni’n eu cynnwys yn y broses asesu ac yn gwneud yn siŵr bod unrhyw blentyn maeth yn eich cartref yn cyd-dynnu’n dda â’ch anifeiliaid anwes.

Mae ein tîm yn gwybod faint o effaith y mae anifeiliaid anwes yn gallu ei chael ar bobl ifanc ac fel rhan o’ch teulu, maen nhw’n cael eu cynnwys hefyd.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Er bod gan bob awdurdod lleol ei bolisïau ei hun ar ysmygu, rydyn ni wastad yn gofyn i chi fod yn onest gyda’n tîm wrth wneud cais i fod yn rhiant maeth. Gallwn ni gynnig cymorth i roi’r gorau i ysmygu os hoffech chi. Mae pob achos yn cael ei ystyried yn unigol ac yn y pen draw, mae’n golygu dod o hyd i’r plentyn maeth iawn i chi.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Gallwch, gallwch chi faethu os ydych chi’n ddi-waith, yn gweithio’n rhan-amser neu’n llawn amser. Dydy bod y rhiant maeth gorau y gallwch chi ddim yn seiliedig ar eich statws cyflogaeth, mae’n ymwneud â rhoi’r amser a’r cariad sydd eu hangen ar rywun i dyfu.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Gallwch chi fod yn rhiant maeth mewn fflat, byngalo neu dŷ mawr. Mae pob cartref maeth yn wahanol a dyna’n union rydyn ni ei eisiau. Ystafell sbâr ddiogel yw’r cwbl sydd ei hangen ar berson ifanc, felly ni waeth beth fo’r maint, mae’ch cartref yn ddigon.

rhagor o wybodaeth am faethu

Family walking away from the camera on the beach

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Pen-y bont ar Ogwr yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Pen-y bont ar Ogwr yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.