y broses
Hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu gyda ni? Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf, a beth i’w ddisgwyl nesaf, yma.
y brosescydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr amgylchedd diogel i ffynnu ynddo.
Ni yw Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Cysylltwch â ni i holi am faethu.
Mae maethu yn ymrwymiad enfawr, ond mae hefyd yn brofiad anhygoel.
Felly, sut rydych chi’n dechrau arni? Byddwn ni’n rhannu popeth y bydd angen i chi ei wybod.
Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant unigryw a helaeth i helpu pob gofalwr maeth i wneud y gorau y gallen nhw. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i greu dyfodol mwy diogel a disglair i bob plentyn yn ein gofal. I gael rhagor o wybodaeth am y manteision a’r cymorth rydyn ni’n eu cynnig, darllenwch fwy yma.
Sut bynnag y bydd ein hangen ni arnoch chi yn ystod eich taith, byddwn ni yma i helpu. Dim ond galwad ffôn sydd ei hangen.
Daethom â grŵp o bobl ifanc mewn gofal (11+ oed) ynghyd i rannu eu profiad o gael eu maethu. Gwahoddwyd Connor Allen, cyn Fardd Plant Cymru hefyd i helpu i arwain ein pobl ifanc i ysgrifennu cerdd am eu profiadau. Mae llawer o gamsyniadau am bobl ifanc mewn gofal a nod y gweithdy oedd caniatáu i’w lleisiau gael eu clywed.
dewch i gael sgwrs gyda ni am faethu. bydd y garfan allan yn y gymuned a bydden nhw'n hapus i sgwrsio â chi am faethu plant