sut mae'n gweithio
sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
Pan fyddwch chi’n dychmygu bod yn rhiant maeth, mae’n debyg eich bod chi’n meddwl am yr ymdeimlad o deulu a ddaw yn ei sgil. Y chwerthin a’r cwlwm agos rhyngoch chi a’r aelod newydd o’ch teulu, y cysylltiad y byddwch chi’n ei ddatblygu.
Mae maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn seiliedig ar rwydwaith gweithgar o arbenigwyr maeth lleol, sy’n cynnig arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Felly, yn ogystal â’r cwlwm clòs hwnnw, bydd gennych chi gylch llawer ehangach o gysylltiadau, a’r holl gymorth y gallai fod ei angen arnoch chi.
gwell gyda’n gilydd
Mae ein tîm ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n agos gyda phob rhiant maeth a phlentyn, gan eu cefnogi drwy gydol eu taith ar bob cam.
Rydyn ni wedi’n harfogi’n llawn i gynnig lefel ddigyfaddawd o gefnogaeth gan ein bod yn rhan o ymdrech gydweithredol Maethu Cymru. Wedi’r cwbl, ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Gyda gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol wrth law bob dydd, rydyn ni’n cydweithio i wella dyfodol pob plentyn yn ein gofal.
Mae ein statws nid-er-elw hefyd yn golygu y gallwn ganolbwyntio popeth yn ôl ar galon y gymuned – mae’r holl gyllid a gawn yn mynd tuag at wella’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu ymhellach, ac mae hynny’n union fel y dylai fod.
beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Rydyn ni’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, gyda phob un yn cynnig gwasanaeth unigryw ar draws ein cymunedau.
Bydd ein tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud ymholiad, a’r nod yw ymweld â chi am y tro cyntaf a chwblhau’r broses sgrinio cyn-asesu o fewn 5 diwrnod gwaith, gan wneud y broses gyfan yn gyflym ac yn hawdd.
Mwy o wybodaeth am Maethu Cymru Pen-y-Bont ar Ogwr: