pam maethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Yma ym Maethu Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, nid dim ond asiantaeth faethu arall ydyn ni. Rydyn ni’n rhan o rwydwaith gydweithredol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw ledled Cymru.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar bwrpas gofal maeth, dim elw gofal maeth, ac mae ein tîm wedi ymrwymo i helpu pob plentyn yn ein hardal leol sydd ein hangen ni. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddod o hyd i ofalwr maeth sy’n berffaith iddyn nhw, gan eu cadw yn eu cymuned, eu hysgol a ger eu teulu os oes modd.
Rydyn ni’n credu mewn creu dyfodol diogel a sefydlog i bob plentyn lleol. Dyna sydd bwysicaf.
ein cenhadaeth
Ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae yna blant a phobl ifanc sydd angen ein cariad a’n cefnogaeth, a’ch cartref sefydlog chi.
Maen nhw’n bobl ifanc yn eu harddegau, yn rhieni ifanc, yn blant bach, yn fabis ac yn frodyr a chwiorydd – pob un â’i straeon i’w hadrodd. Ond i bob plentyn a pherson ifanc, mae ein nod yr un fath: darparu dyfodol gwell iddyn nhw.
ein cefnogaeth
Mae ein tîm yn gweithio gyda chi fel rhwydwaith cefnogi cyflawn, gan eich cefnogi chi a’r plentyn sydd yn eich gofal. Mae gennyn ni dîm o arbenigwyr y tu ôl i ni hefyd, sy’n cynnig cyngor ac yn arwain y ddau ohonoch chi ar eich taith drwy ofal maeth.
Pryd bynnag y byddwch chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu, rydyn ni yma i’ch helpu chi i gael y gorau o’r profiad unigryw hwn sy’n newid bywydau.
ein ffyrdd o weithio
Mae cydweithio â chi a’r gymuned leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn creu cysylltiadau gydol oes. Dyma sut rydyn ni’n dewis gweithio. Rydyn ni’n hyderus yn ein dull o weithredu fel tîm ac rydyn ni’n teimlo bod gweithio fel rhan o’ch cymuned yn gwneud byd o wahaniaeth i’r plant sydd yn byw ynddi.
Mae pob plentyn rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn wahanol, ac felly hefyd ein gofalwyr maeth. Felly, fel tîm, rydyn ni’n dathlu anghenion unigol pawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae ein profiad ni’n dangos bod hyn yn helpu i sefydlu’r twf a’r datblygiad gorau posibl ar gyfer pob plentyn.
eich dewis
Os byddwch chi’n dewis ymuno â’n tîm ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, byddwch chi’n dewis gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ymroddedig. Mae’n golygu bod yn rhan o dîm o bobl go iawn sy’n byw yn eich cymuned chi, ac sy’n ddeall realiti bywyd bob dydd.
Byddwn ni’n cynnig y lefel orau bosibl o arweiniad, hyfforddiant a lwfansau ariannol i’ch helpu chi ar eich taith. Dysgwch fwy am y manteision amrywiol a chystadleuol rydyn ni’n eu cynnig, yma.
Cymerwch y cam cyntaf heddiw drwy lenwi’r ffurflen isod.