ffyrdd o faethu
mathau o faethu
maethu o ofal maeth
Mae cartrefi maeth yn rhywle lle gall pobl ifanc chwerthin, dysgu a chael eu caru. Mae gan bob plentyn ei anghenion unigryw ei hun, ac mae pob teulu maeth yn darparu rhywbeth gwahanol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Mae amrywiaeth o opsiynau gofal maeth ar gael sy’n addas ar gyfer gwahanol fathau o blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae gan bob un o’n teuluoedd maeth un peth yn gyffredin: maen nhw i gyd yn cynnig lle diogel i helpu plant i dyfu.
O aros dros nos neu ymweliad penwythnos i leoliadau tymor hwy, mae’r math o ofal maeth yn amrywio yn ôl pob sefyllfa.
gofal maeth tymor byr
Mae gofal maeth tymor byr yn chwarae rhan hanfodol mewn setlo a gofalu am y plentyn tra byddwn ni’n dod o hyd i ateb mwy parhaol.
Mae gofal maeth tymor byr yn gallu bod yn unrhyw beth rhwng awr o egwyl, arhosiad rheolaidd dros y penwythnos neu gartref am flwyddyn. Mae’n golygu bod yn gyson a gofalu am blentyn yn gynnar yn ei daith faethu, gan ei helpu i addasu i deulu newydd a dyfodol newydd.
Er ei fod yn arhosiad byrrach, dydy hynny ddim yn golygu mai bach yw’r effaith. Yn aml, mae’n golygu bod yn rhan o greu rhywbeth llawer gwell i’r plentyn, gan ei helpu i deimlo’n ddiogel a chreu atgofion.
gofal maeth tymor hir
Mae gofal maeth tymor hwy ar gael i blant a phobl ifanc sydd ddim yn gallu byw gartref, gan gynnig cartref a theulu arall iddyn nhw.
Mae paru gofal maeth tymor hir wastad yn golygu gweithio’n galed i roi’r plentyn cywir gyda’r teulu maeth cywir, cyhyd ag y bydd angen. Dyma’r amgylchedd diogel a chariadus sydd ei angen ar blentyn am gyfnod hirach, gan ddarparu sefydlogrwydd gyda theulu maeth am oes.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae gofal maeth yn cael ei rannu’n ofal tymor hir neu’n ofal tymor byr ond, o fewn hynny, mae rhai mathau mwy arbenigol o ofal. Mae rhai hyd yn oed yn dod gyda’u telerau cymeradwyo eu hunain. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:
seibiant byr
Mae pawb angen eu lle eu hunain weithiau, ac mae seibiant byr yn cynnig lle i blant i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd.
Weithiau, mae seibiant byr yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’, a gall olygu unrhyw beth o aros dros nos neu ddiwrnod ar y penwythnos. Mae modd eu teilwra i fod yn wyliau rheolaidd neu’n rhywbeth llai aml – weithiau dim ond un waith y bydd yn digwydd.
Mae gofal maeth seibiant byr yn cynnig profiadau a chyfleoedd newydd i blentyn, gan gynnig teulu estynedig a phersbectif gwahanol.
rhiant a phlentyn
Gyda lleoliadau i rieni a phlant, rydych chi’n rhannu eich profiad magu plant eich hun â rhywun sydd wir angen y gefnogaeth honno. Mae’n ymwneud â helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.
Drwy gael lleoliad rhiant a phlentyn, rydych chi’n helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf er mwyn iddyn nhw allu gwneud yr un fath.
gofal therapiwtig
Mae angen math gwahanol o ofal weithiau ar blant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol mwy cymhleth, a dyna lle mae lleoliadau therapiwtig yn bwysig. Mae gofalwyr therapiwtig a’u plant yn cael lefel ychwanegol o gefnogaeth, felly fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.
ffoaduriaid ifanc
Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi’u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith – yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.
Rydyn ni’n falch o fyw mewn gwlad gynhwysol ac amrywiol sy’n gofalu am bob plentyn yng Nghymru. Rydym angen teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.
Os gallwch chi eu cefnogi nhw, gallwn ni eich cefnogi chi.
Beth bynnag yw eich cefndir a’ch sefyllfa gartref, os oes gennych rywbeth i’w gynnig i ffoadur ifanc neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â ni yma.