eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Os ydych chi eisoes yn maethu yng Nghymru gydag asiantaeth faethu arall, mae trosglwyddo at ein tîm yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn haws nag yr ydych chi’n ei feddwl. Efallai eich bod chi eisoes yn rhan o’n tîm ehangach – os ydych chi’n maethu gydag Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, rydych chi’n rhan o Maethu Cymru.
Fel rhwydwaith cydweithredol o 22 o wasanaethau maethu nid-er-elw yng Nghymru, mae gennyn ni un genhadaeth gyffredin: cefnogi a grymuso ein holl ofalwyr maeth ac, yn ei dro, y plant sydd yn eu gofal. Rydyn ni’n gweithio i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc yn eich ardal chi.
Mae’n broses hawdd i drosglwyddo o asiantaeth faethu arall i’n tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr, felly os ydych chi’n awyddus i ymuno â ni, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

sut i drosglwyddo aton ni
Mae’n hawdd – cysylltwch â’n tîm lleol.
Yna byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi, i weld sut gallai maethu gyda ni weithio i chi. Os ydych chi’n fodlon bwrw ymlaen â’r trosglwyddo, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i symud yn ddidrafferth.

pam trosglwyddo
Mae’r plant sydd yn ein gofal wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb o ddifri. Byddwn ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael eich paru â phlentyn neu berson ifanc sy’n gweddu i’r hyn y gallwch ei gynnig, a fydd cymryd ei le yn eich cartref fel aelod o’r teulu sydd wedi bod yno erioed.
Gyda hyfforddiant pwrpasol a chefnogaeth barhaus, byddwn ni’n eich grymuso i fod y gofalwr maeth gorau y gallwch chi fod, gan eich helpu i wella bywydau plant yn eich ardal.