sut rydyn ni’n eich cefnogi chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

cymorth a lwfans

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • gostyngiad Treth y Cyngor o 50%
  • a llawer mwy o fuddion
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

group of foster carers outdoors in bridgend

lwfans gofal maeth

a yw gofalwyr maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, taliad lwfans y plentyn yw £225 i £257 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r elfen ffioedd yn amrywio o £168 i £214 yn dibynnu pa mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwn eich cefnogi gyda phethau ychwanegol fel treuliau milltiroedd. Yn dibynnu ar y sefyllfa, rydym yn darparu offer fel dodrefn ystafell wely babi neu blentyn yn ôl yr angen. Mae hyn i’w gytuno gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol ac yn unol â’r polisi ariannol.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Fostering team photo on seafront in Porthcawl, Bridgend supporting fostering

eich tîm maethu lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae cynnig cefnogaeth barhaus yn rhan hanfodol o’n gwaith yma yn Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, ac ni fyddwch byth hebddi.

Fel gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol, rydym yn cydweithio â chi, y plant yn eich gofal a phob gweithiwr proffesiynol o amgylch y plentyn fel rhan o’r un gwasanaeth. Rydym i gyd wedi ein lleoli yn y Ganolfan Ddinesig ac mae’r ffocws hwnnw ar gysylltiad yn helpu i sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r holl blant rydym yn gofalu amdanynt, a’u teuluoedd maeth.

Rydych chi’n rhan annatod o’r tîm hwn, sy’n golygu y byddwch chi’n cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu.

Three supervising social workers smiling in Bridgend support

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Yn ogystal â’ch gweithiwr cymdeithasol proffesiynol a phrofiadol eich hun wrth law i helpu, bydd gennych fynediad at ystod eang o grwpiau cymorth.

Felly, dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Foster Wales Bridgend fostering coffee support for foster carers

cymorth cyfoedion

Gall gofalwyr maeth arloesol profiadol eich cefnogi ar eich taith fel gofalwr maeth. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau, i chi ac i’r plant, wedi’u cynllunio i’ch dwyn yn agosach at deuluoedd maeth eraill. I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd ac atgofion newydd i chi.

Mae ymuno â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn golygu y byddwch yn derbyn aelodaeth yn awtomatig i’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Credwn fod y sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig y math cywir o gyngor, cefnogaeth, arweiniad ac ystod eang o fanteision eraill.

Byddwn yn sicrhau eich bod wedi’ch cysylltu’n dda yn ein cymuned maethu drwy gydol eich taith fel gofalwr maeth.

Foster carers learning opportunities in Bridgend

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru.

Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd. Rydyn ni’n gwybod faint o ddysgu a thwf sy’n rhan o’r profiad maethu ac rydyn ni’n ei annog yn weithredol ym mhob pwynt.

two women outside smiling with one thumbs up

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

pàs hamdden

Aelodaeth hamdden am ddim i’r aelwyd maethu gyfan, sy’n golygu defnydd diderfyn o gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau a chwarae meddal yr Awdurdod Lleol.

Icon of a house

cymhelliant treth gyngor

Bydd pob gofalwr maeth cymeradwy Maethu Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn derbyn gostyngiad o 50% yn nhreth y cyngor (fel ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol).

social activities icon

gweithgareddau cymdeithasol

Cylchlythyrau rheolaidd a chyfarfodydd grwpiau cymorth i gadw mewn cysylltiad. Hefyd gweithgareddau cymdeithasol i’r teulu cyfan drwy gydol y flwyddyn, o adeiladu cestyll tywod ym Mhorthcawl, i bartïon Calan Gaeaf a Nadolig!

support icon

gofalwyr maeth arloesol

Mae rhai o’n gofalwyr maeth profiadol wedi ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol er mwyn cefnogi a mentora gofalwyr maeth eraill. Nhw yw ein gofalwyr maeth Arloesol (ac maen nhw’n wych)!

speaking icon

dweud eich dweud

Digwyddiad ymgynghori a gynhelir ddwywaith y flwyddyn lle mae pob gofalwr maeth yn cael ei wahodd ac rydym yn eich annog i ddweud eich dweud, rhoi adborth a helpu i lunio ein gwasanaeth maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

learning icon

cyfleoedd hyfforddi

Mae ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd hyblyg, gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunydd darllen, gweithdai… mae hyd yn oed sioeau teledu yn darparu cyfleoedd dysgu. Rydyn ni eisiau i chi fod y gorau y gallwch chi fod, felly rydyn ni’n cynorthwyo yn eich hyfforddiant i’ch helpu chi i ffynnu.