john a leslie
Mae’r cwpl priod, John a Leslie, wedi bod yn maethu ers dros 15 mlynedd. Gyda’u teulu, maen nhw wedi cefnogi llawer o blant lleol o’u cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
y teulu maeth
Mae John a Leslie wedi bod yn briod ers dros 20 mlynedd ac maen nhw wedi bod yn rhieni maeth ers 15 mlynedd. Mae eu plant wedi tyfu i fyny erbyn hyn ac wedi gadael y nyth, ond dydy eu hangerdd i gefnogi pobl ifanc ddim wedi cilio.
Dechreuon nhw faethu pan gyflwynwyd Leslie i’r syniad yn y gwaith.
“Cyn i ni ddechrau maethu, roeddwn i’n gweithio yn y feithrinfa leol. Roeddwn i’ncefnogi plentyn a oedd mewn gofal maeth, ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i wrth fy modd yn gallu cynnig cartref i blentyn fel ef. Felly, fe benderfynon ni fynd amdani!”
Roedd eu plant yn gefnogol iawn i’r syniad ac maen nhw bob amser wedi croesawu’r rhai a oedd yn byw gyda nhw, boed hynny yn y tymor byr neu’r tymor hir.
“Roedd ein plant yn ifanc iawn ar y pryd, felly maen nhw wedi tyfu i fyny gyda phlant maeth o’u cwmpas felly maen nhw wedi arfer. Maen nhw’n meddwl ei bod hi’n beth arferol cael brodyr a chwiorydd ychwanegol.”
“mae’r plant rydyn ni’n eu maethu wedi cael croeso yn ein cartref”
Drwy gydol eu cyfnod gyda Maethu Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae John a Leslie wedi cynnig nifer o wahanol fathau o leoliadau maeth.
Pan oedden nhw’n dechrau maethu am y tro cyntaf, roedden nhw’n gofalu am blant yn y tymor byr, a’r rheini a oedd ar fin cael eu mabwysiadu.
Yn fwy diweddar, maen nhw wedi bod yn darparu lleoliadau arbenigol tymor hwy.
“Ar hyn o bryd, mae gennyn ni ddau fachgen, saith a naw oed, yn byw gyda ni ar leoliad tymor hir. Maen nhw wedi bod gyda ni ers dros ddwy flynedd erbyn hyn. Mae gan yr hynaf anghenion dysgu ychwanegol.
“Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud yw rhoi cartref cariadus, diogel, saff a sefydlog iddyn nhw. Rwy’n meddwl ein bod ni’n gwneud hynny iddyn nhw.”
“rwy’n falch ein bod wedi gallu gweddnewid bywydau cynifer o blant”
Maen nhw wrth eu bodd yn gweld y trawsnewid yn y plant yn ystod eu cyfnod mewn ofal, a sut maen nhw’n tyfu ac yn ffynnu drwy gael cefnogaeth bywyd teuluol sefydlog sy’n llawn cariad. Ac mae’r naill a’r llall yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned o’u cwmpas.
“Allem ni ddim gwneud hyn heb gefnogaeth y tîm maethu a holl staff yr ysgol. Dydyn nhw ddim yn cefnogi’r bechgyn yn unig; maen nhw’n ein cefnogi ni hefyd.”
hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu eich hun?
Allech chi gynnig cartref teuluol cariadus i blentyn, fel John a Leslie? Os felly, cysylltwch â thîm Maethu Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw i ddysgu mwy am faethu yn yr ardal leol a sut mae cychwyn ar eich taith.
hoffech chi ddysgu mwy?
Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.
Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.