sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Felly rydych chi’n gwybod eich bod chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu, ond dydych chi ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl. Gadewch i ni eich tywys chi drwy’r broses.
cam 1 – cysylltwch
Mae’r cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth yn llawer haws nag y byddech yn ei feddwl. Mae’n dechrau gydag ymholiad syml i’n tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Efallai na fydd anfon e-bost neu godi’r ffôn yn teimlo fel llawer ond credwch neu beidio, dyma’r cam pwysicaf yn eich taith.
cam 2 – yr ymweliad cartref
Unwaith y byddwn ni’n gwybod bod gennych chi ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi. Byddwn ni’n dod allan i ymweld â chi yn eich cartref neu’n trefnu galwad fideo os na allwn gwrdd wyneb yn wyneb. Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig meithrin perthynas â chi o’r dechrau un. Mae hyn yn cynnwys dod i adnabod y bobl sydd bwysicaf i chi, yn ogystal â dysgu mwy am y lle rydych chi’n ei alw’n gartref.
cam 3 – yr hyfforddiant
Mae rhan gyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad yn dechrau yma. Mae wedi’i gynllunio i roi rhagor o wybodaeth i chi am faethu er mwyn i chi fod yn sicr mai dyma’r dewis iawn i chi. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill sydd hefyd yn cychwyn ar eu taith.
Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “sgiliau maethu”. Bydd yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos. Byddwch chi’n dysgu pethau newydd, ac yn gwneud cysylltiadau a ffrindiau a fydd yn para am oes.
cam 4 – yr asesiad
Yna, daw’r asesiad, a dyma lle byddwch hefyd yn dysgu am beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Er gwaethaf ei enw, dim prawf yw hwn, rydyn ni’n addo. Mae’n gyfle i ni archwilio sut mae eich teulu yn gweithio ac yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Drwy rannu unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych chi, gall ein tîm o weithwyr cymdeithasol ystyried cryfderau a gwendidau eich uned deuluol.
cam 5 – y panel
Mae gan bob un o’n 22 o dimau Maethu Cymru banel sy’n edrych ar eich asesiad. Mae’r panel yn cynnwys aelodau annibynnol, gweithwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr maeth sydd i gyd yn hynod brofiadol.
Dydy’r panel ddim yno i dderbyn neu wrthod eich cais, yn hytrach mae aelodau’r panel yn edrych arno o bob ochr, i greu cynllun ac i rannu argymhellion a fydd, yn eu barn nhw, yn eich helpu i gael y gorau o’r daith faethu.
cam 6 – y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i’r panel maethu gyfarfod a darparu argymhellion, byddwn yn cyrraedd y cytundeb gofal maeth. Mae hwn yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu – o’ch cyfrifoldebau dyddiol i’r cymorth a’r arweiniad ehangach y byddwch chi’n eu cynnig, ac mae’n cynnwys yr holl arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi.