blog

6 rheswm pam rydyn ni wrth ein boddau â hysbyseb Nadolig John Lewis

A ninnau’n wasanaeth maethu awdurdod lleol, rhaid i ni gyfaddef…rydyn ni WRTH EIN BODDAU â hysbyseb Nadolig John Lewis eleni! Bob blwyddyn mae pawb yn gofyn ‘ooo, wyt ti wedi gweld unrhyw hysbyseb Nadolig eto?’, ac mae modd dadlau bod cystadleuaeth gynyddol ymhlith yr holl frandiau i fod â’r hysbyseb Nadolig orau.

Eleni, mae hysbyseb John Lewis (yn ein barn ddiduedd ni!) yn well nag unrhyw hysbyseb arall, ac os nad ydych chi wedi’i weld eto, rydyn ni wir yn argymell i chi ei wylio. Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, dewch yn ôl i gael sgwrs gyda ni am faethu.

Mae’n ddigon hawdd i ni ddweud ein bod ni’n hoffi rhywbeth, ond dyma egluro pam yn union rydyn ni’n dweud hynny.

1. Mae rhieni maeth yn gwneud pethau anhygoel

Mae pob plentyn yn wahanol, ac union felly mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw yn ogystal. Ond beth maen nhw eu hangen yw rhywun i ofalu amdanyn nhw. Rhywun a fydd yn rhoi amser o’u diwrnod i wneud iddyn nhw deimlo’n arbennig a’u croesawu nhw i’w cartref, heb ofyn unrhyw gwestiynau.

Cwpl ‘arferol’ sydd yn yr hysbysiad, ac mae’n amlwg eu bod nhw wir yn gofalu am bobl. Mae un o’r rhiant maeth yn dysgu sgil newydd (a pheryglus!) a hynny er mwyn bod â rhywbeth yn gyffredin gyda’r plentyn y byddan nhw’n eu gofalu amdano. Gallwn ni weld hefyd bod y rhiant maeth arall yn gwneud y galwadau ffôn ac yn gwneud trefniadau.

Mae’r ddau riant maeth yn dangos eu hymrwymiad a’u trugaredd, er, mewn ffyrdd gwahanol. O beth allwn ni ei weld, maen nhw’n ymddangos fel pobl arferol, ond yn bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

O ran pwy all faethu, rydyn ni’n gofyn: a oes modd i chi wneud gwahaniaeth, ac a ydych chi eisiau gwneud hynny?

2. Mae’n canolbwyntio ar ysbrydoli, ymrwymiad a gwneud y peth iawn

Yn ei ffurf symlaf, rydyn ni’n gweld rhywun yn trio ei orau glas i fod yn groesawgar a gwneud i rywun arall deimlo’n gartrefol.

Byddai’r hysbysiad wedi gallu canolbwyntio ar yr elfennau negyddol o ofal maeth, ond yn lle, mae’n cyfleu stori go iawn mewn ffordd gadarnhaol a pherthnasol. Rydyn ni’n gweld y gorau ym mhobl. Rydyn ni’n gweld cymuned. Rydyn ni’n gweld trugaredd. Rydyn ni’n gweld ymrwymiad.

Wrth gwrs, profiad y plant sydd dan ofal yw’r peth pwysicaf, ond mae John Lewis yn canolbwyntio ar yr hyn y mae modd ei wneud. Beth allwn ni i gyd ei wneud i droi’r profiadau drwg yma yn rhai da, neu yn rhai gwych, hyd yn oed?

Wrth ganolbwyntio ar rieni maeth, mae John Lewis wedi dod â maethu i sylw’r cyfryngau prif ffrwd. Drwy wneud hyn byddai modd i bobl ystyried gwneud hynny eu hunain ac mae’n tynnu sylw at sut mae llawer ohonom ni’r â’r potensial i newid dyfodol bywydau pobl ifainc.

Mae gweld y wên ar wyneb y ferch yn golygu popeth.

3. Cwrdd ag Ellie

Dydy Ellie ddim yn ‘ystadegyn arall’. Mae hi’n berson go iawn, gyda diddordebau go iawn, stori go iawn a phrofiadau go iawn, a hynny yn union fel pob plentyn a pherson ifanc arall yn y system ofal. Mae hi werth yr ymdrech. Mae hi werth yr amser a dreuliwyd. Er ein bod ni dim ond yn cwrdd ag Ellie ar ddiwedd yr hysbysiad, rydyn ni’n cael gwybod yn syth beth yw un o’i diddordebau (rydyn ni’n canfod hyn ar y diwedd, wrth gwrs). Mae hi’n cael ei chroesawu i mewn i gartref ble mae hi eisoes yn werthfawr, a gallai hynny gael effaith gadarnhaol ar blentyn / person ifanc wrth iddyn nhw gwrdd â’u teulu maeth newydd. Y pethau bychain sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

4. Herio ystrydebau

Yn draddodiadol, efallai y byddwch chi’n meddwl mai menywod yw’r rhan fwyaf o rieni maeth. Ei fod yn rôl sy’n fwy mamol. Ond, mae John Lewis wedi herio’r ystrydeb yma gan ein cyflwyno ni i riant maeth gwryw, gan ddilyn ei daith ef.

Mae gyda ni rieni maeth gwrywaidd hollol wych ym Maethu Cymru. Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol. Mae angen arnom ni rieni maeth amrywiol o wahanol gefndiroedd, ac sydd â phrofiadau a straeon gwahanol. Mae hefyd yn braf gweld plentyn maeth sydd yn hŷn na rydych chi’n ei ddisgwyl. Does y ddim fath beth â phlentyn maeth ‘nodweddiadol’. O fabanod i bobl ifainc yn eu harddegau, o frodyr a chwiorydd i rieni ifainc, mae cynifer o blant a phobl ifainc ledled Cymru ar hyn o bryd sydd angen y cyfle yna. Y cyfle yna i fynd ar drywydd newydd. Dyna ble mae modd i rieni maeth helpu.

5. Dod â maethu i’r brif ffrwd

Mae John Lewis yn frand anferth. Maen nhw’n gredadwy ac maen nhw’n gallu cyrraedd ystod eang o bobl. Mae’n beth ENFAWR eu bod nhw wedi dewis canolbwyntio ar faethu yn eu hysbyseb Nadolig. Dewch i ni barhau i siarad am y peth. Parhau i ofyn cwestiynau. Parhau i ddysgu am blant sydd angen cartrefi ac sydd angen gofal a beth allwn ni i gyd ei wneud. Oes modd i chi faethu? Oes modd ichi gynnig seibiannau byr i blant? Oes modd i chi agor eich drysau a chroesawu plentyn neu berson ifanc sydd ei hangen fwyaf? Mae gwahanol fathau o faethu y mae modd i chi ei wneud. Siaradwch â’ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

6. Mae’n fwy na dim ond hysbyseb

Mae’n wych gweld bod brand cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr angen am rieni maeth yn y DU, ond nid dyna’r cyfan y maen nhw’n ei wneud. Mae John Lewis wedi cyflwyno ‘Rhaglen Gyflogaeth Adeiladu Dyfodol Hapusach’, sy’n rhaglen gyfredol i adnabod a recriwtio pobl ifainc dalentog sydd â phrofiad o fod dan ofal i ddod yn Bartneriaid yn eu busnes. Eu hymrwymiad hirdymor yw: Bod yn gyflogwr o ddewis i bobl ifainc sydd â phrofiad o fod dan ofal; Cefnogi pobl ifainc sy’n gadael y system ofal i ddechrau mewn cyflogaeth hirdymor ystyrlon ym Mhartneriaeth John Lewis neu gyda chyflogwyr eraill; Cefnogi plant dan ofal a rhoi popeth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer dyfodol hapusach drwy bartneriaethau gyda’r sectorau gwirfoddol ac elusennol; Codi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau y mae’r rheiny sydd â phrofiad o fod dan ofal yn eu hwynebu a’u grymuso nhw i ddweud eu straeon eu hunain yn eu geiriau eu hunain.

Cysylltu â ni

Mae John Lewis wedi cymryd y cam cyntaf hollbwysig i dynnu sylw at yr angen am ragor o rieni maeth yn y DU. Ond a ydych chi wedi ystyried faint o blant sy’n byw yn eich ardal leol sydd angen cymorth?

P’un a ydych chi erioed wedi ystyried maethu o’r blaen, neu os ydych chi’n rhywun sydd wedi bod yn bwriadu dechrau’r broses, beth am gysylltu â ni? Mae digon o wybodaeth ar ein gwefan, ac mae ein swyddog recriwtio yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth gyda chi.

I bobl sy’n byw y tu allan i RCT, am ragor o wybodaeth neu i ddod o hyd i wasanaeth maethu yn eich awdurdod lleol, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/.

Story Time

Stories From Our Carers