blog

Dathlu plant rhieni maeth

Trwy gydol y mis yma, rydyn ni’n dathlu plant rhieni maeth!

Mae dod yn rhieni maeth yn benderfyniad mawr sy’n effeithio arnoch chi, eich teulu a’ch cylch ehangach o gyfeillion. Mae pobl sy’n ystyried dod yn rhieni maeth yn aml yn gofyn, “sut bydd maethu yn effeithio ar fy mhlant?” by people considering fostering. Does dim ffordd hawdd o ateb y cwestiwn yma gan fod pob teulu yn wahanol ac mae pob plentyn sy’n cael ei faethu yn wahanol, ond yn gyffredinol, mae barn plant sydd wedi cael eu maethu yn gadarnhaol iawn.

Bydd maethu yn newid mawr iawn i gartref eich teulu ar y dechrau. Rydyn ni wedi siarad â phobl sy’n rhieni maeth ac wedi clywed straeon anhygoel am sut mae’r broses honno wedi effeithio ar eu plant.

Profiad Amber o fod yn rhan o deulu maeth

Mae Leanne a Dylan yn rhieni maeth ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, ynghyd â’u plant Amber a Josh, sy’n rhan bwysig iawn o daith faethu’r teulu.

Bu eu merch Amber yn ddigon caredig i rannu ei meddyliau:

“Mae cael fy magu gyda brodyr a chwiorydd maeth ers i fi fod yn 4 oed yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Mae maethu yn gwneud i fi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i gael teulu a chartref cariadus. Mae gwybod bod gen i’r gallu i’w rhannu nhw â phlant eraill sydd heb y pethau yma yn fy ngwneud i’n falch iawn.

Foster siblings

Mae gen i sawl atgof bythgofiadwy gyda phob un o fy mrodyr a chwiorydd maeth, ac rwy’n mwynhau gweld sut mae pob un ohonyn nhw wedi tyfu a datblygu. Mae’n deimlad gwych cael gwybod bod modd i fi a fy nheulu roi profiadau plentyndod maen nhw’n eu haeddu iddyn nhw. Nawr fy mod i’n hŷn ac yn deall rhagor, mae gen i berthynas arbennig iawn â’r plant – mae’n anhygoel cael gweld gwên ar eu hwynebau.

Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn fendith na fyddwn i fyth yn ei newid. Rwy’n ddiolchgar dros ben i fy rhieni am roi’r profiad yma i fi.”

Mae Amber wedi derbyn tystysgrif haeddiannol yn ddiweddar gan Y Rhwydwaith Maethu, sy’n cydnabod ei hymrwymiad, ei gofal a’i thosturi i’w brodyr a chwiorydd maeth. Rydym yn hynod falch o gael Amber yn ein cymuned faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dyma straeon rhieni maeth ynglŷn ag effaith maethu ar eu plant

Meddai Leanne:

“Daethon ni’n rhieni maeth ym mis Tachwedd 2012. Roedden ni wedi ystyried gwneud hyn ers peth amser gan fod modryb Dylan yn rhiant maeth i’r Awdurdod Lleol, felly roedd gyda ni syniad o’r hyn mae hi’n ei olygu i fod yn rhieni maeth. 

Pan roedd Amber a Josh yn yr ysgol llawn amser, dyma benderfynu ei bod hi’n gyfle delfrydol i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn trwy ei groesawu i’n cartref ni.

Rydyn ni’n rhieni maeth tymor byr ac yn cynnig gofal seibiant [achlysurol, seibiannau cyson, e.e. un penwythnos mewn mis, neu arhosiad dros nos]. Rydyn ni’n gymwys i ofalu am ddau blentyn hyd at 18 oed, ond dim ond plant hyd at 7 oed rydyn ni wedi’u maethu hyd yn hyn.”

Mae hi’n werth nodi bod mathau amrywiol o ofal maeth mae modd i chi eu cynnig. Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar ein gwefan faethu a chysylltu i holi unrhyw gwestiynau!

“Mae dod yn rhieni maeth yn daith emosiynol a heriol iawn. Mae hi hefyd yn daith foddhaol iawn pan rydyn ni’n gweld plant yn ein gofal ni’n ffynnu ac yn cael eu mabwysiadu/yn dychwelyd at eu teuluoedd biolegol. Mae hi’n anodd pob tro mae plentyn yn symud ymlaen o’n gofal ni – mae hi’n naturiol i weld eu heisiau nhw ar ôl iddyn nhw fod yn rhan o’n teulu ni cyn hired. 

Daethon ni’n rhieni maeth gyda’r Awdurdod Lleol gan fod modryb Dylan wedi argymell ein bod ni’n gwneud hynny, ac rydyn ni wedi parhau ers hynny. Mae gweithwyr cymdeithasol gwych wedi ein goruchwylio a’n cefnogi ni ers y cychwyn. Mae hefyd gyda ni rwydwaith gwych o rieni maeth eraill yn yr Awdurdod Lleol sy’n gefnogol iawn.”

Foster siblings walking in forest

Mae plant rhieni maeth yn dysgu sgiliau newydd.

Nid Amber yn unig sydd o’r farn yma, mae sawl plentyn i rieni maeth yn rhannu’r un gred. Mae plant rheini maeth yn dysgu sgiliau empathi, sut i rannu a charedigrwydd trwy fod yn rhan o deulu maeth.

Dyma ddiolch i bob plentyn i rieni maeth.

Os hoffech chi gysylltu i gael trafodaeth anffurfiol, gwnewch hynny yma. Os ydych yn byw y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i wasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers