blog

Ein gofalwyr maeth Amy a Viv

Mae Amy a Viv yn ofalwyr maeth seibiant yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n golygu eu bod yn gofalu’n bennaf am bobl ifanc am wyliau byr ar benwythnosau. Maen nhw hefyd wedi cynnig gofal brys pan oedd angen i’r awdurdod lleol ddod o hyd i gartref i blentyn ar frys, pan oedd ganddynt le i wneud hynny.

foster carers Amy and Viv get married

Mae Amy a Viv yn gweithio yn ystod yr wythnos; fel Rheolwr Cynnyrch ar gyfer Elusen Plant, a Rheolwr Cynnyrch ar gyfer banc yn y drefn honno.

Fe wnaethon nhw ystyried maethu yn 2020 ar ôl gyrru heibio baner Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr y tu allan i Ganolfan Ddinesig CBS Pen-y-bont, a’u hysgogodd i edrych ar ein gwefan. Roedd Amy wedi ystyried maethu flynyddoedd ynghynt ond ar y pryd, nid oeddech yn gallu maethu a gweithio’n llawn amser. Nodwyd ar wefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr y gallwch weithio a maethu, felly daeth yn opsiwn iddynt.

Beth wnaeth i chi benderfynu maethu?

Fe wnaethom dderbyn gofal llawn amser o lysfrawd anabl Viv oherwydd afiechyd ei mam. Daeth i fyw gyda ni, ac roedd gweld ei dwf a’i ddatblygiad yn ein gofal yn atseinio’n wirioneddol gyda ni, yn yr ystyr ein bod yn cydnabod y gwahaniaeth cadarnhaol yr oeddem wedi’i wneud i’w fywyd. Dechreuodd gamu y tu allan i’w gylch cysur, gan gymdeithasu â theulu, ac roedd yn prysur ddod yn llawer mwy annibynnol – yn coginio, glanhau, trefnu apwyntiadau.

Gwnaeth hyn i ni feddwl…a ninnau wneud gwahaniaeth iddo mewn cyfnod mor fyr, beth arall y gallem ei gynnig pe baem yn dod yn ofalwyr maeth?

Pa sgiliau neu nodweddion personoliaeth allwch chi eu cynnig fel gofalwyr maeth?

Rydyn ni’n bobl gyffredin iawn sy’n cydnabod mai dyma’r tro cyntaf i bawb mewn bywyd. Mae Amy yn ddigynnwrf ac yn feddylgar, a Viv yn hwyliog ac yn ofalgar – rydyn ni’n gwneud tîm gwych!

Rydyn ni wrth ein bodd yn gwneud i bobl deimlo eu bod nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain o’n cwmpas ni, ac rydyn ni’n agored i drafod unrhyw beth. Byddai’n llawer gwell gennym pe bai person ifanc yn siarad â ni am rywbeth na’i ddal i mewn a’i fewnoli.

Mae’r ddau ohonom wrth ein bodd yn chwarae gemau bwrdd a mynd allan i wneud gweithgareddau…plant mawr ydyn ni a dweud y gwir!

Ers pryd ydych chi wedi bod yn maethu?

Hon fydd ein hail flwyddyn o faethu. Roedd y broses yn teimlo ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser – un cyngor fyddai i bawb gael mynediad at eu dogfen Ffurflen F cyn gynted ag y byddant yn siarad â’u gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol. Mae hyn wir yn eich helpu i feddwl am eich bywyd a’r cwestiynau pwysig y mae angen i’r gweithiwr cymdeithasol eu gofyn i chi. Mae yna nifer o wiriadau a phrosesau i fynd trwyddynt, roeddem yn disgwyl i bopeth fod ar-lein ond roedd yn dal i fod yn gymharol drwm o ran gwaith papur. Fodd bynnag, roedd pawb yn egluro’n dda yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud, a pha wiriadau yr oedd angen i ni eu cael.

Allwch chi faethu a chael anifeiliaid anwes?

Rydyn ni’n famau i gŵn! Mae gennym dri chi ac nid yw hynny wedi ein hatal rhag maethu.

Cava Tzu yw Flynn, a Dakota yn Portuguese water dog – mae’r ddau wedi bod efo ni ers eu bod yn gŵn bach. Yna fe wnaethon ni fabwysiadu Eva sy’n Golden Doodle, cyn-gi bridio o loches achub, ac mae hi’n bedair oed.

Three dogs lined up on the grass

Beth yw manteision maethu gyda’ch awdurdod lleol?

Y bobl ifanc rydyn ni’n cwrdd â nhw – maen nhw’n hyfryd!

Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi bod yno i ni drwy gydol yr amser. Mae wedi bod yn ffynhonnell wych o gefnogaeth, ac wedi gwrando ar ein meddyliau a’n teimladau – mae’n ein deall ni i’r dim!

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried maethu?

Peidiwch â dal yn ôl! Peidiwch â meddwl beth allai ddigwydd, a pheidiwch â gwrando ar y bobl sy’n ceisio codi ofn arnoch chi. Byddwch â ffydd yn eich barn, sicrhewch eich bod yn trin pobl ifanc â pharch ac mi wnewch chi wahaniaeth!

Beth yw rhai o’ch awgrymiadau ar faethu?

Ceisiwch osgoi gofyn gormod o gwestiynau. Mae pobl ifanc rydyn ni wedi’u gweld yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddweud eustori wrthym ni, ac rydyn ni eisiau osgoi hyn, oni bai eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau. Rydyn ni’n hoffi canolbwyntio ar y pethau da, beth yw eu cryfderau, yn hytrach na’r pethau drwg sydd wedi digwydd iddyn nhw gan nad yw hynny’n diffinio pwy ydyn nhw.

Cysylltwch i ddechrau eich taith faethu

Mae Amy a Viv wedi dewis maethu pobl ifanc am seibiannau byr. Nid oes rhaid i faethu fod yn ymrwymiad llawn amser, a gall weithio o amgylch eich swydd bresennol. Mae’n llawer mwy hyblyg nag yr ydych yn ei feddwl mae’n debyg – darllenwch ein tudalen mathau o faethu.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gysylltu â ni, ond y ffordd hawsaf yw llenwi ein ffurflen ymholiad a bydd ein swyddog recriwtio yn eich ffonio am sgwrs gyfeillgar ynghylch eich opsiynau. Rydyn ni’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a byddem wrth ein bodd yn cael mwy o bobl fel Amy a Viv yn ein cymuned faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr!

Os ydych chi’n darllen hwn ond yn byw y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, ewch i www.maethucymru.llyw.cymru/ i ddod o hyd i’ch gwasanaeth maethu awdurdod lleol cywir.

Story Time

Stories From Our Carers