blog

Sut y gwnaeth Ian a Lynda oresgyn ‘Syndrom Nyth Gwag’

Beth yw Syndrom ‘Nyth Gwag’?

Mae syndrome ‘nyth gwag’ yn cyfeirio at y teimlad o fod yn unig, wedi colli pwrpas fel rhiant neu’n chwilio am gyflawniad ar ôl i blant adael cartref neu – ‘gadael y nyth’.

Efallai fod rhieni sy’n teimlo felly, ac sydd â mwy o ofal i’w roi, eisoes yn meddu ar nifer o’r rhinweddau sydd eu hangen i fod yn ofalwr maeth. Cafodd Ian a Lynda sgwrs gyda DJ lleol, Lee Jukes, yn trafod sut aethant ati i ddechrau ar eu taith maethu ar ôl i blant Lynda dyfu’n oedolion. Maent yn rhannu sut gwnaethant osgoi syndrom ‘nyth gwag’, a gwirioneddau a rhinweddau maethu

Man and Woman smiling
Ers faint ydych chi wedi bod yn maethu?

“Bron i ddeng mlynedd bellach. Dyma’r swydd orau yn y byd. Mae pob diwrnod yn wahanol, does dim modd dweud, mae gennych ryw syniad bras o beth fydd yn digwydd yfory, ond pwy a ŵyr! Mae’r plant yn eich herio, maen nhw’n rhoi cyfnodau da iawn i chi, cyfnodau drwg hefyd ond ar y cyfan mae’r da’n fwy na’r drwg.”

Beth wnaeth i chi eisiau dechrau maethu?

“Wel, roedd fy mhlant i wedi tyfu i fyny, roedd Ian a minnau newydd ddechrau perthynas newydd ac roedd angen iddo symud i Gymru oherwydd ei swydd. Symudais hefyd, felly nid oeddwn yn gweithio. Doedd gen i neb i ofalu amdano ond Ian, ac rydw i wrth fy modd yn gofalu am bobl. Ro’n i wedi gofalu am fy rhieni, gofalu am fy mhlant. Nid dyna pwy ydw i ond dwi’n teimlo mai dyna’r peth dwi’n ei wneud orau, roedd yn gwneud synnwyr i mi.”

Pam wnaethoch chi ddewis y llwybr i faethu gyda’ch awdurdod lleol?

“Gwelais hysbyseb i fynd draw a gweld sut beth oedd e, fel sesiwn gyflwyno oedd hi, ac es i draw i’r sesiwn.

Roedd e’n gweithio i ni – roedd pawb yn llawn gwybodaeth ac yn barod i helpu. I ni roedd yn broses hir iawn oherwydd rydyn ni’n sôn am bron i ddeng mlynedd yn ôl. Maen nhw wedi crynhoi pethau bellach, felly dydi o’m yn cymryd mor hir.”

Sut fyddech chi’n disgrifio bod yn ofalwr maeth i unrhyw un sy’n gwrando a allai fod â diddordeb?

“Mae’n rhaid meddwl yn gyflym. Mae’n rhaid gallu dangos dychymyg o ran y ffordd rydych chi’n delio gyda phethau. Creadigol.

Mae’n dy gadw di’n ifanc a does dim modd delio â’r plant yn yr un ffordd ag y gwnaethoch rianta eich plant genedigol. Mae’n hollol wahanol. Mae’r plant hyn wedi gweld a chael profiad o bethau na ddylai unrhyw un, nid oedolion hyd yn oed, fod wedi eu gweld. Felly mae’n rhaid gallu meddwl y tu allan i’r bocs.

Mae’r bobl ifanc yn hoffi ffiniau…wel dydyn nhw ddim yn eu hoffi, ond maen nhw eu hangen! Maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel, ac mae hynny’n rhan o’r holl beth, sef sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn teimlo’n ddiogel. Y rhan anoddaf yw ennill eu hymddiriedaeth oherwydd mae llawer o oedolion wedi’u gadael nhw i lawr yn gyffredinol. . I ddod i le ble rydym yn ddieithriaid llwyr i bawb arall pan maen nhw’n cerdded drwy’r drws gyda’u gweithiwr cymdeithasol, mae’n rhaid i ni ennill yr ymddiriedaeth.”

Fyddech chi’n dweud ei fod yn eich cadw chi’n ifanc?

“O, yn bendant! Does dim modd meddwl cam ar y blaen, mae angen meddwl deg cam ar y blaen.

Ac yn amlwg gyda’r holl hyfforddiant y mae’r awdurdod lleol yn ei gynnal, rydych chi’n dysgu drwy’r amser. Gyda thechnoleg fodern, y rhyngrwyd, ffonau clyfar, rhaid bod cam ymlaen gyda’r agwedd honno hefyd. Bydd plant naw, deg, un ar ddeg, deuddeg oed yn arbenigo ar dechnoleg ac yn well na chi, oni bai eich bod chi’n dal i fyny!”

Faint o blant ydych chi wedi maethu ers dod yn ofalwyr maeth?

“Rydym wedi dewis plant hirdymor, felly tua deg? Deg neu bymtheg. Rydym wedi cael rhai cymhleth sydd wedi bod gyda ni am dair, pedair, pum mlynedd.”

Ydych chi’n cael boddhad o’r gwaith rydych chi’n ei wneud?

“Ydw, rwy’n teimlo’n fodlon iawn. Wrth gwrs, mae’n anodd a gall fod yn barhaus, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Pam mae gen ti fabi sy’n hel dannedd am ddau o’r gloch y bore, dwyt ti’m yn meddwl ‘o mae hyn yn wych!’”

Felly ydych chi’n cadw mewn cysylltiad â’r plant ar ôl iddynt adael?

“Mae’r dau o fechgyn hŷn oedd gyda ni am chwe blynedd, maen nhw’n cadw mewn cyswllt – ‘dyn ni newydd brynu carafán, felly aethom i fyny i ochr arall Abertawe lle mae’r ddau o bobl ifanc y gwnaethom eu maethu yn byw gyda’u teulu mabwysiadol. Roedd hynny’n fwy o waith na’r plant dwi’n meddwl, y garafán!

Cawsom ddiwrnod anhygoel yn hel atgofion, mae’n bwysig i’r bobl ifanc hefyd oherwydd mae’r hynaf bellach yn saith, ac roedd eisiau atebion am y cyfnod cyn iddo fynd at ei fam a’i dad newydd. Fel, beth oedd fy ngair cyntaf? A dim ond ni fyddai’n gallu ateb hynny, ac mae’n llenwi’r bylchau i’w mam a’i thad newydd hefyd oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod chwaith.”

Pa fath o gymorth ydych chi’n ei gael gan dîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yr awdurdod lleol?

“Rydym wedi bod yn lwcus iawn; roedd ac mae ein gweithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio yn rhagorol! Bydd yr adran yn cynnig cymorth os oes gennych broblem benodol gyda phlentyn, mae rhywun y gallwn droi ato bob amser. 

Mae yna bum gofalwr cyswllt, ac rwy’n un ohonyn nhw. Rydym yn gofalu am tua 20-25 o ofalwyr maeth eraill yn anffurfiol. Maen nhw’n llythrennol yn cael codi’r ffôn ar unrhyw adeg o’r dydd.

Mae gofalwyr maeth yn deall gofalwyr maeth.”

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n gwrando nawr ac sy’n meddwl ‘Hoffen i wneud hyn ond dwi’m yn hollol siŵr?’

“Gofynnwch y cwestiwn.

Siaradwch â phobl sy’n gwybod. Siaradwch â gofalwyr maeth. Siaradwch â gofalwyr cyswllt.

Mae’n rhaid meddwl, mae’n benderfyniad mawr. Bydd eich gweithrediadau chi’n effeithio ar fywydau’r plant rydych chi’n gofalu amdanynt. Mae’n fwy na chi, mae amdanyn nhw a beth allech chi ei gynnig iddynt. Beth rydych chi’n credu y gallech ei wneud i sicrhau bod yr unigolyn yn magu sgiliau defnyddiol iawn yn ystod bywyd. Mae’n ymwneud â hyn a beth sydd gennych chi i’w gynnig. Does dim modd ei roi i lawr ar ôl ei ddewis, fel llyfr. Nid yw’n rhywbeth y gallwch chi ei godi a’i roi i lawr fel llyfr. Mae’n rhaid i chi gael yr ymrwymiad hwnnw drwy’r amser.

Ond gallwch chi gael effaith fawr ar fywyd y person ifanc, a rhoi cyfle arall iddynt ddod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain, a dyna beth sy’n bwysig i ni. Rhoi’r annibyniaeth iddynt a’r cyfle i roi cynnig ar bethau na fyddent wedi gallu eu gwneud pe byddent wedi aros lle’r oedden nhw.

Felly, i unrhyw un sy’n meddwl am y peth, holwch, gofynnwch y cwestiwn, ac yna gofynnwch i gwrdd â gofalwyr maeth eraill.”

Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig i bawb sy’n maethu â ni ynghyd â lwfans ariannol, cymorth helaeth a mynediad at rieni maeth eraill, gan gynnwys grwpiau cymorth. Bwriwch olwg ar ein tudalen er mwyn cysylltu â ni ac er mwyn cael rhagor o wybodaeth!

Hoffech chi glywed y podlediad yn llawn? Ewch i: www.youtube.com/watch?v=b9VpcIN3jtY

Cysylltwch â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr

Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers