blog

wythnos gweithiwr cymdeithasol

Rydym eisiau amlygu a dathlu’r gwaith gwych mae ein gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud. Heb weithwyr cymdeithasol, ni fyddai modd bodloni anghenion sylfaenol na chymhleth miloedd o bobl ledled Cymru. O helpu pobl i ymdopi â cham-drin a phroblemau iechyd meddwl, i salwch cronig a diffyg iechyd, mae rôl y gweithiwr cymdeithasol yn hynod o bwysig.

Yma ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, mae ein gweithwyr cymdeithasol yn cydweithio â’n gofalwyr maeth i sicrhau bod y plant yn eu gofal yn cael y cyfle gorau am fywyd gwell. Nid yn unig eu bod yn biler o gymorth i’n gofalwyr, maent hefyd yn cynnig arweiniad, dysg, ac yn aml yn dod y bobl agosaf at y teulu maeth.

Hoffem ddiolch i’n holl weithwyr cymdeithasol am yr hyn a wneir bob dydd. Nid yw’n werth meddwl lle fuasem ni hebddynt!

Cawsom sgwrs ag un o’n gweithwyr cymdeithasol yn y tîm maethu, sydd â chyfoeth o brofiad fel gweithiwr cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Beth yw eich enw a beth yw eich prif ddyletswyddau fel gweithiwr cymdeithasol?

Fy enw i yw Kirsty. Rwy’n Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol gyda Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae fy rôl yn golygu cynorthwyo a chynghori gofalwyr maeth er mwyn eu helpu i ddarparu amgylchedd diogel, sefydlog, llawn cariad i blant yn eu gofal.

Er mwyn cyflawni hyn rwyf hefyd yn gweithio’n agos â gweithwyr gofal plant, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol dan sylw o fewn asiantaethau eraill megis iechyd ac Addysg. Rwyf hefyd yn asesu pobl sydd eisiau dod yn ofalwyr maeth.

Smiling selfie of social worker

Pa mor hir ydych chi wedi bod yn weithiwr cymdeithasol?

Rwyf wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers pymtheg mlynedd. Yn ystod tair blynedd gyntaf fy ngyrfa roeddwn yn weithiwr cymdeithasol plant mewn Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal. Yna yn 2012, dechreuais weithio yn Nhîm Maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol – a dyma fi bron i ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach!

A oes gennych unrhyw atgofion arbennig na wnewch chi fyth anghofio fel gweithiwr cymdeithasol?

Mae yna ormod i’w cyfrif! Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o helpu plant gael sefydlogrwydd dros y blynyddoedd – er enghraifft gweld plan tyn cael eu gosod gyda’u teulu mabwysiedig neu’n dychwelyd at eu teulu genedigol.

Bu adegau hefyd pan rwyf wedi gweld plant a phobl ifanc yn gwneud cynnydd anhygoel a chyflawni pethau nad oedd yn ymddangos yn bosibl ychydig ynghynt; o gael canlyniadau gwych mewn arholiadau i ddysgu sut i reidio beic.

Rwy’n bendant wedi dysgu bod pob cyflawniad, yn rhai bach a mawr, yr un mor werthfawr ac yn werth y byd. Mae bod yn rhan o’r profiadau hyn yn bendant yn gwneud y swydd yn werth chweil.

Beth yw’r pethau mwyaf cadarnhaol am fod yn weithiwr cymdeithasol?

Y pethau mwyaf cadarnhaol i mi, heb os, yw cwrdd â chymaint o bobl anhygoel o ddydd i ddydd a gweithio gyda nhw; mae hyn yn cynnwys gofalwyr maeth ac aelodau ehangach eu teulu, y plant a’r bobl ifanc a’u teuluoedd, yn ogystal â phobl broffesiynol eraill o feysydd gwahanol.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol bydd uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r daith faethu gyda’r gofalwyr, sy’n brofiad gwerth chweil (ac emosiynol ar adegau!) ac un rwyf bob amser yn teimlo’n ffodus i fod yn rhan ohoni. Mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn dîm hyfryd i weithio ynddo ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn cael cydweithio â phobl mor gefnogol, cyfeillgar ac ymroddedig.

Beth yw eich prif heriau fel gweithiwr cymdeithasol?

Yn fy marn i, un o’r prif heriau yw ein bod yn aml yn cael llwyth achosion mawr, felly mae’n anodd bod yno i bawb gymaint ag yr hoffwn. Hefyd, gall fod yn rhwystredig weithiau gweld pobl yn methu cael yr hawl i gymorth llawn sydd ei angen arnynt yn brydlon oherwydd rhestrau aros etc., mae hyn tu hwnt i reolaeth y gweithiwr cymdeithasol fel arfer.

Yn fwy cyffredinol, mae’n dorcalonnus gweld pa mor negyddol mae gwaith cymdeithasol yn cael ei weld a’i bortreadu’n gyhoeddus, er enghraifft gan y cyfryngau. Mae’r tîm sydd gennym ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn wych ac maent yn gwneud eu gorau glas bob dydd.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried dod yn weithiwr cymdeithasol?

I unrhyw un sy’n ystyried gwaith cymdeithasol byddwn yn dweud ewch amdani, gan fod pawb yn gallu dod â rhywbeth unigryw i’r rôl.

Mae pob diwrnod yn wahanol, ac rydym yn dysgu gwersi’n barhaus – sydd wedi fy helpu i ddatblygu nid yn unig fel gweithiwr cymdeithasol ond yn bersonol hefyd. Er bod yna isafbwyntiau yn ogystal ag uchafbwyntiau, mae’r teimlad o foddhad rydych yn ei gael wrth helpu pobl (hyd yn oed fel cogen fach mewn olwyn fawr) a gweld canlyniadau positif, yn ei wneud yn 100% werth chweil.

Mae’n rhaid i chi roi llawer, ond rydym yn cael llawer iawn yn gyfnewid am hynny.

Canmoliaeth i’n gweithwyr cymdeithasol gan reolwyr a gofalwyr maeth.

Dau o’n gofalwyr maeth gwerthfawr yn rhannu am eu perthynas â Kirsty:

“Fel gofalwyr mae angen i’ch Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio ddeall yn llwyr bopeth a all effeithio ar sut y bydd y plentyn yn setlo a’r cydnawsedd tymor hwy. Dylent annog canlyniadau cadarnhaol goruchwyliaeth, a bod yn ffrind proffesiynol i chi ac yn gyfrinachol. Teimlwn fod Kirsty yn cyd-fynd â’r meini prawf hyn – rydym bob amser wedi teimlo ei bod yn cael ei chefnogi a’i gwerthfawrogi ganddi!” – Ian & Lynda

Diolch

Mae’n amlwg pa mor frwdfrydig ac ymroddedig mae ein gweithwyr cymdeithasol, hen ofyn am ddim yn gyfnewid. Diolch o galon i dîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr!

Am fwy o wybodaeth am faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chefnogaeth ein gweithwyr cymdeithasol gwych, cysylltwch â ni yma.

Dilynwch ni ar Facebook i glywed mwy am y bobl wych yn ein cymuned faethu.

Story Time

Stories From Our Carers