blog

Gwobrau Cydnabod Gofalwyr Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod Pythefnos Gofal Maeth

Mae Gwobrau Cydnabod Gofalwyr Maeth Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyfle gwych i ni gydnabod a diolch i’n gofalwyr maeth gwych. Gyda gwahanol bethau’n digwydd yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, rydym wedi mwynhau’n fawr iawn y cyfle i ofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr tîm, swyddogion marchnata, cynghorwyr a phenaethiaid gwasanaeth ddod at ei gilydd i ddathlu’r gwaith caled a’r ymrwymiad sy’n gysylltiedig â maethu.

Un ffordd y bu i ni lwyddo i ddiolch i’n gofalwyr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd drwy gynnal ein Seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth gyntaf yn yr Atlantic Hotel ym Mhorthcawl.

Categorïau’r gwobrau oedd:

  • Gwobr Cefnogi Plant yn eu Harddegau  (‘Teenage Whisperer’)
  • Gwobr Mary Poppins
  • Gwobr Uwchlaw a Thu Hwnt
  • Gwobr Ymrwymiad Personau Cysylltiedig
  • Gwobrau Ymddeol
  • Gwobrau’r Cynghorydd
  • Gwobr Clive Richards

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y gwobrau…

Gwobrau Cydnabod Maethu Pen-y-bont ar Ogwr

Roedd y Seremoni Wobrwyo yn ddiwrnod hyfryd, wedi’i drefnu’n ofalus gan y tîm maethu. Rhaid  sôn yn arbennig am Dawn a Tash, dau o aelodau’r tîm a roddodd gymaint i mewn i’r gwaith nes bod peryg i ni eu colli i’r diwydiant trefnu priodasau! Roedd y meddwl a’r ymdrech a aeth i mewn i wneud y diwrnod hwn yn un arbennig yn amlwg, ac mae’r adborth gan ofalwyr wedi bod yn wych.

Gwobrau Cydnabod Gofalwyr Maeth

O gael ein harth faeth Toby yn cyrraedd am luniau, i’r ardderchog Gareth Taylor, a Chôr Meibion Maesteg yn perfformio, roedd yr achlysur yn un gwirioneddol arbennig.

Man playing guitar to audience

Yn ogystal â’r gwobrau uchod, cyflwynwyd tystysgrifau am wasanaeth hir i ofalwyr maeth a gofalwyr person cysylltiedig (pobl sy’n gofalu am aelodau’r teulu), er mwyn cydnabod y nifer o flynyddoedd y maent wedi bod yn darparu gofal o safon i’n plant.

Y Gwobrau

Gwobr Cefnogi Plant yn eu Harddegau (‘Teenage Whisperer’) – Sharon a Kerry

Gwobr i ofalwyr maeth sy’n gofalu am ein plant yn eu harddegau sy’n mynd drwy’r profiadau mwyaf cythryblus, a gofalu amdanynt. Mae Sharon a Kerry yn mynd at bobl ifanc gyda chyfuniad o onestrwydd di-lol, disgyblaeth ddidwyll ac uniongyrchol, a bwriadau pur. Maent yn cysylltu gyda phobl ifanc yn eu harddegau, yn eu deall ac yn eu helpu i dorri allan o gylchoedd ymddygiad negyddol er mwyn iddynt ffynnu. Sharon a Kerry yw’r ymgorfforiad o ‘Teenage Whisperers’ yn ein llygaid ni!!

Gwobr Mary Poppins – Lorraine a John (Person cysylltiedig), Gwen (Cyffredinol)

Y symbol o’r hud sydd wrth wraidd bywyd bob dydd a pha mor barod yw ein gofalwyr maeth ar gyfer unrhyw beth! Fel Mary Poppins, mae gan Lorraine a John (gofalwyr carennydd) a Gwen (gofalwraig gyffredinol) fag yn llawn o adnoddau y maent yn eu defnyddio i helpu plant pan fyddant yn wynebu anawsterau. Dim ond y gorau maen nhw ei eisiau ar gyfer y plant y gofalant amdanynt…maent yn berffaith ym mhob ffordd!

Uwchlaw a Thu Hwnt – Sian ac Anthony

Mae Uwchlaw a Thu Hwnt yn ymadrodd sydd wedi ei gwtogi o’r ymadrodd ‘uwchlaw a thu hwnt i’r alwad i gyflawni dyletswydd’, sy’n gyfeiriad at ymddygiad arwrol yn ystod ymgyrch filwrol. Er nad oes gan Sian ac Anthony brofiad o frwydro, gall deimlo fel hyn ar adegau ac maent yn ymgorfforiad o’r ymadrodd hwn. Mae’r gofal a’r cymorth y maent yn eu darparu i’r plant yn eu gofal yn wych, maent yn gwneud yr ymdrech ychwanegol mewn modd sy’n rhagori ar ddisgwyliadau. Mae’r canlyniadau cadarnhaol y maent wedi’u cyflawni ar gyfer plant yn brawf o hyn.

Gwobrau Ymddeol – Val a Rob (44 o flynyddoedd), Glynis (17 o flynyddoedd) a Sharon a Jeff (37 o flynyddoedd)

Mae gennym ychydig o ofalwyr maeth sy’n dod i ddiwedd eu gyrfa faethu eleni felly roeddem am ddangos ein gwerthfawrogiad o’u hymrwymiad a’u hymroddiad i’r gwasanaeth, a’r gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i blant ers blynyddoedd lawer. Dathliad o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni!

Gwobrau Cydnabod Gofalwyr Maeth
Gwobrau’r Cynghorydd – Lynne, Cath a James, a Chris a Jerry

Fe wnaethom ofyn i’n Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol enwebu unrhyw ofalwyr maeth a ddylent, yn eu barn nhw, dderbyn gwobr. Fe wnaethant baratoi amlinelliad o’r rhesymau pam eu bod yn credu y dylai’r gofalwr maeth hwnnw dderbyn y wobr. Dewiswyd tair gwobr yn ofalus a’u cyflwyno gan y Cynghorydd!

Gwobr Clive Richards – Vicky Davies a Paul Davies

Gwobr goffa i ofalwr cyswllt gwerthfawr (gofalwr maeth profiadol sy’n cefnogi gofalwyr maeth eraill), y mae meddwl mawr iawn ohono/ohoni ar draws y gwasanaeth maethu. Mae Vicky a Paul wedi gwneud gwaith gwych wrth gefnogi gofalwyr maeth eraill… p’un a yw hynny ar gyfer gofalwyr sydd newydd eu cymeradwyo sydd angen arweiniad, neu eraill sydd angen sgwrs gyda pherson cyfeillgar, mwy profiadol.

Gwobrau Cydnabod Gofalwyr Maeth

Felly sut alla i ddod yn ofalwr maeth?

Mae gennym lawer o wybodaeth ar ein tudalen ‘y broses‘, ond y ffordd orau o gymryd eich cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth yw cysylltu â ni drwy ein ffurflen ymholiad yma.

Mae ein swyddog recriwtio wrth ei bodd yn sgwrsio, felly os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i faethu ond bod gennych chi ychydig o gwestiynau, hi yw’r person gorau i siarad â hi!

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers