blog

Pa gymorth a fyddaf yn ei dderbyn yn rhiant maeth?

Pan mae rhywun yn ystyried dod yn rhiant maeth, maen nhw’n tueddu i ganolbwyntio ar yr uchafbwynt: yr eiliad mae modd iddyn nhw gynorthwyo person ifanc mewn cartref diogel. Mae hyn  yn brofiad anhygoel. Rhaid i ni gofio bod angen llawer o gymorth ‘y tu ôl i’r llenni’ ar rieni maeth er mwyn sicrhau bod rhywun yn cyrraedd y rhan yma o’r broses faethu yn llwyddiannus.

Mae Kirsty yn un o’n Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hi wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers pymtheg mlynedd, ac yn rhan o Garfan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr ers deuddeg mlynedd. Os ydych chi’n ddigon ffodus i adnabod Kirsty, byddwch chi’n ymwybodol eich bod chi mewn dwylo diogel!

Smiling selfie of social worker

Rydyn ni eisiau bwrw golau ar y gwaith gwych mae ein gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud ar y cyd â’n rhieni maeth. Sut mae eu cymorth wedi helpu ein rhieni maeth i ffynnu, a sut mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n ddiflino i fod yn garfan unedig â theuluoedd maeth er mwyn gofalu am eich plant y well.

Yn y blog yma, mae Kirsty yn rhannu straeon am ei pherthnasoedd â sawl teulu maeth, mewn perthynas â’r meysydd canlynol:

  • Cynorthwyo rhieni maeth sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd
  • Cynorthwyo rhieni maeth sydd â phlant eu hunain
  • Cynorthwyo rhieni maeth sy’n gweithio yn ogystal â maethu

Cynorthwyo rhieni maeth sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd

Rydyn ni’n ceisio gwneud ein gorau glas er mwyn dod o hyd i deuluoedd maeth caredig sy’n gallu gofalu am frodyr a chwiorydd, gan sicrhau ein bod ni’n cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd mewn cynifer o achosion â phosibl. Fe wnaethon ni ofyn i Kirsty am gyfnod yn ei gyrfa mewn perthynas â’r maes yma:

“Rwy’n goruchwylio rhiant maeth, J, sy’n darparu gofal maeth hirdymor i dri phlentyn o’r un teulu. Maen nhw bellach wedi bod yn byw gyda J ers dros ddeng mlynedd, ac mae’n eu hystyried yn blant iddo ef ei hun.

Mae gyda’r tri o blant berthynas agos iawn, ac mae J yn credu bod eu maethu gyda’i gilydd wedi bod yn allweddol o ran sicrhau eu bod nhw wedi setlo a theimlo’n ddiogel yn ei ofal. Nododd os bydden nhw wedi cael eu gwahanu y byddai wedi achosi straen a gorbryder iddyn nhw, gyda phob un ohonyn nhw yn cael trafferth o ran setlo.

Mae J wedi bod yn hyfryd yn darparu cartref cariadus ar gyfer y tri phlentyn, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn ei fod wedi gallu gofalu amdanyn nhw am gyfnod mor hir.”

Cynorthwyo teulu maeth sydd â phlant eu hunain

Rydyn ni’n ymwybodol nad yw maethu yn benderfyniad sy’n effeithio arnoch chi yn unig. Mae’n effeithio ar eich teulu a’ch rhwydwaith cefnogaeth gyfan, gan gynnwys eich plant eich hun. Mae rhai pobl yn dweud wrthyn ni eu bod nhw’n poeni am effaith posibl maethu ar eu plant eu hunain, ond mewn gwirionedd, mae modd iddo fod yn ffordd wych iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd, dod yn fwy tosturiol, a chael rhagor o gyfeillion i chwarae gyda!

“Mae gyda nifer o’r rhieni maeth rwy’n eu cynorthwyo blant eu hunain. Mae bob tro’n anhygoel gweld pa mor agored yw’r plant yma i rannu eu cartrefi a’u teuluoedd gyda phlant eraill.

Mae un o’m teuluoedd maeth yn cynnwys y rhieni maeth a’u dau blentyn yn eu harddegau, sy’n gofalu am ferch wyth mlwydd oed yn hirdymor. Mae hi wedi bod yn byw gyda’r teulu ers pedair blynedd. Mae gyda hi berthynas wych gyda’i rhieni maeth yn ogystal â bod yn agos iawn gyda’r ddau blentyn yn eu harddegau, sy’n ei hystyried hi yn chwaer fach. Mae’r plant hŷn wedi dweud wrthyf nad ydyn nhw’n gallu dychmygu eu teulu hebddi bellach. Dyw pob achos o faethu ddim yn hirdymor, ond mi fydd yr achos penodol yma. O ganlyniad, mae disgwyliadau wedi cael eu rheoli er mwyn adlewyrchu hyn.

Rwyf hefyd wedi goruchwylio rhieni maeth oedd wedi darparu cartref i fachgen ifanc pum mlwydd oed, hyd nes iddo droi’n 18 oed. Fe barhaodd i fyw gyda nhw am gyfnod wedi iddo droi’n ddeunaw oed. Mae plant y rhieni maeth eu hunain, sydd sawl blwyddyn yn hŷn yn ei ystyried yn frawd ac maen nhw’n parhau i gynnal eu perthynas agos nawr yn oedolion.

Mae gyda nifer o blant anghenion cymhleth, boed yn blant wedi’u maethu neu blant eich hunain. Dyw hyn ddim wedi bod yn rhwystr i rai o’n rhieni maeth. Rwy’n cynorthwyo sawl rhiant maeth sydd â phlant eu hunain ag anghenion ychwanegol megis Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth. Gyda gwaith paru gofalus (rhagor o wybodaeth am beth yw paru yma), mae’r rhieni maeth yma wedi gallu bodloni anghenion eu plant eu hunain gan gyflawni eu swyddogaeth yn rhiant maeth hefyd.

Mae gydag un rhiant maeth penodol fab naw mlwydd oed sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, ac mae hi’n maethu bachgen chwe blwydd oed hefyd. Mae’r ddau fachgen yn cyd-dynnu’n dda, ac mae’r plentyn chwe blwydd oed yn gwarchod y bachgen hŷn. Er enghraifft, mae’n ei gysuro ac yn ei dawelu os mae’n ymddangos yn rhwystredig neu drist. Mae’r rhiant maeth yn teimlo bod perthynas y ddau fachgen wedi bod o fudd i’r ddau ohonyn nhw. Mae’n rhoi rhagor o gyfleoedd i’w mab ei hun chwarae ac arfer bod yng nghwmni plant eraill, gan alluogi i’r plentyn chwe blwydd oed feithrin ei natur ofalgar a deall bod amrywiaeth yn beth cadarnhaol.

Wrth gwrs, dyw popeth ddim yn hawdd. Yn anochel, mae rhai achosion lle mae plant rhieni maeth eu hunain wedi’i chanfod yn anodd asio â phlant maeth. Neu efallai eu bod nhw’n canfod ymddygiad y plentyn maeth yn heriol a’i gweld hi’n anodd byw gyda nhw. Yn amlwg, mae modd i hyn fod yn sefyllfa heriol ar gyfer rhieni maeth, ond rydyn ni yma bob tro i’w cynorthwyo nhw a dod o hyd i’r datrysiad gorau i bawb.

Mewn amgylchiadau o’r fath yma, rwyf wedi’i gweld hi’n hanfodol annog plant y rhieni maeth eu hunain i rannu eu teimladau a sicrhau bod rhywun yn gwrando arnyn nhw. Mae’r gweithiwr cymorth i blant yn eistedd gerllaw ni yn y swyddfa felly a ninnau’n awdurdod lleol, mae modd i ni ddod o hyd i ddatrysiadau mewn modd effeithiol am ein bod ni oll o dan yr un to.

Mae’n bwysig ein bod ni’n meddu ar berthnasau da â theuluoedd maeth, er mwyn iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n gallu siarad â ni am unrhyw beth y maen nhw angen ei drafod. Er mwyn iddyn nhw dderbyn y cyfle i fod yn onest ac i hynny gael ei gydnabod â’i weithredu.”

Cynorthwyo rhieni maeth sy’n gweithio yn ogystal â maethu

“Mae modd i faethu fod yn hyblyg iawn. Rwy’n goruchwylio sawl teulu maeth lle mae gyda’r rhieni maeth (neu riant maeth mewn achosion o aelwydydd sengl)  swyddi eraill yn ogystal â’u swyddogaeth maethu. Yn yr achosion yma, mae’n bwysig deall beth yw argaeledd a chapasiti y rhieni maeth er mwyn sicrhau eu bod nhw ond yn gofalu am blant y mae modd iddyn nhw ymrwymo iddyn nhw.

Mae’n well gyda rhai pobl sy’n dod yn rhieni maeth ac sydd hefyd yn gweithio ddarparu gofal seibiant neu seibiannau bychain. Mae’n swydd werthfawr sy’n galluogi iddyn nhw fwynhau maethu heb iddo gael effaith ar eu swydd. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi goruchwylio rhieni maeth sy’n gweithio sydd wedi gallu darparu gofal maeth byrdymor a hirdymor. Mae hyn o ganlyniad i ffactorau megis trefn eu diwrnod gwaith arferol ac os mae eu cyflogwr yn caniatáu oriau gwaith hyblyg. Mae’n ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw gydbwyso eu gwaith a maethu mewn modd effeithiol.

Rwyf wedi arsylwi bod cyfleoedd i’r swyddogaeth maethu ffitio o amgylch cyflogaeth bresennol rhiant maeth. Rhaid i’r rhieni maeth a’u gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol fod yn realistig a bod yn ystyriol o beth all gael ei gyflawni, beth all ddim cael ei gyflawni a pha gymorth sydd ar gael er mwyn sicrhau bod eu taith maethu yn llwyddiannus.”

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy wedi ysgrifennu blog defnyddiol am faethu a gweithio – bwriwch olwg arno yma.

Dim ond un o gonglfeini cymorth ein rhieni maeth yw gweithwyr cymdeithasol.

Mae maethu gyda’ch awdurdod lleol yn golygu maethu ar y cyd â charfan gyfan o bobl sydd eisiau i chi lwyddo. Maen nhw eisiau i bob plentyn lwyddo.

Mae ein carfanau wedi’u lleoli yn yr un adeilad – dylid nodi bod ein rhieni maeth, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i blant yn gweithio tua deng cam oddi wrth ei gilydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr! Mae hyn yn galluogi i’n dulliau cyfathrebu a datrys problemau fod yn effeithiol drwy gynorthwyo ein gilydd.

Rydyn ni’n cynnal boreau coffi cymorth yn rheolaidd, lle mae modd i rieni maeth gwrdd â’i gilydd a helpu’i gilydd i fynd i’r afael â phethau. Rydyn ni’n gwahodd siaradwyr gwadd yn aml er mwyn rhannu gwybodaeth mewn perthynas â meysydd defnyddiol megis gofal therapiwtig. Mae nifer o rieni maeth profiadol yn darparu cyngor ac yn barod i wrando ar rieni maeth eraill.

A chithau’n rhiant maeth gyda’r awdurdod lleol, mae’r berthynas rydych chi’n ei meithrin gyda’ch gweithiwr cymdeithasol a charfanau ehangach yn unigryw ac arbennig. Mae’n mynd y tu hwnt i’r broses faethu, gan greu cyswllt am flynyddoedd i ddod.

Dysgwch beth allwch chi ei gynnig yn rhiant maeth gyda’r awdurdod lleol, ac am sut mae modd i chi elwa ar gymorth, hyfforddiant a chysylltiadau gydol oes.

Cysylltwch â ni heddiw!

Story Time

Stories From Our Carers