Dywed Amy, ein gofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei bod hi mor falch o’r ffordd y mae ei thair merch wedi gwneud i blentyn yn eu gofal deimlo fel “un o’r gang”.
Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 Hydref i 19 Hydref), mae gofalwyr Maethu Cymru yn rhannu straeon am sut mae eu plant wedi helpu i sicrhau fod y rhai sydd yn eu gofal yn teimlo eu bod yn cael croeso, eu bod yn hapusach, yn fwy diogel, a’u bod yn cael eu caru.
Mae rhai pobl yn dweud taw un o’r rhwystrau i ddod yn ofalwyr maeth yw’r effaith bosib ar eu plant, ond mae llawer o blant yn gweld manteision o fod yn rhan o deulu sy’n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn gweld bod modd iddynt ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain â phlant sy’n cael eu maethu yn eu cartref.
Gofalwyr maeth Amy a Rhys
Dyma Amy a Rhys yn maethu person ifanc drwy Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr y llynedd, a cafon nhw eu syfrdanu gan gefnogaeth eu merched Georgia, 14, Grace, 12, a Gabi, wyth oed.
“Ry’n ni mor falch ohonyn nhw,” meddai Amy. “Maen nhw wedi ymddwyn mewn ffordd wych. Bob amser yn helpu a jest y ffordd maen nhw wedi delio gyda popeth. Maen nhw wedi bod yn anhygoel.”
Dywedodd Amy ei bod hi’n bwysig iddyn gynnwys eu merched yn y broses faethu bob amser.
“Fe wnes i sôn am y peth gyda’r plant cyn siarad â Rhys,” meddai Amy. “Roedden nhw’n bositif iawn o’r cychwyn cyntaf, o’r ymweliad cyntaf gan y gweithiwr cymdeithasol.
“Maen nhw’n ei thrin hi fel un o’r gang. Mae’r hynaf wedi sôn ei fod wedi gwneud iddi deimlo’n fwy diolchgar am ei bywyd ac wedi’i helpu i sylweddoli nad yw pawb yn ei chael hi mor hawdd. Maen nhw’n gwerthfawrogi yr hyn sydd ganddyn nhw.”
Meithrin cymuned a chefnogaeth
Dywedodd Rhys ei fod yn falch o’r gefnogaeth y mae’r teulu wedi’i derbyn gan y gymuned faethu.
“Ry’n ni’n aml yn mynd i’r boreau coffi lle mae’n gyfle gwych i’r plant ddod at ei gilydd i chwarae ac i ni ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor,” meddai.
“Gan bod maethu yn beth newydd i ni, mae yna lawer o bethau y mae’n rhaid i ni eu dysgu. Mae’r gymuned sydd gennym ni a’r gefnogaeth gan ofalwyr maeth eraill neu’r gweithwyr cymdeithasol wedi ein helpu gyda’r broses.”
Rhannodd Georgia, eu merch: “Rwy’n teimlo’n dda fy mod yn gallu helpu plant eraill, ac mae hynny’n gwneud i mi werthfawrogi cael teulu diogel. Rwy’n caru’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu ar gyfer teuluoedd maeth ac yn teimlo’n rhan wirioneddol o’n cymuned faethu. Mae maethu’n gwneud i mi deimlo’n hapus.”

Pan ofynnwyd iddi am eu plant a maethu, ychwanegodd Amy: “Mae ein merched wedi gwneud i ni deimlo mor falch ohonyn nhw drwy roi popeth o’u calon i’w brawd maeth – maen nhw wedi caru’r profiad cyfan. Maen nhw wedi bod yn amyneddgar ac yn garedig, ond yn anad dim, yn aeddfed iawn yn eu hymateb i groesawu aelod newydd o’r teulu i’n cartref.””
A allai eich teulu fod yn maethwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Os yw Amy, Rhys a’u merched wedi eich ysbrydoli i ddechrau’r sgwrs am faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy ein tudalen ymholiadau.
Bydd ein Swyddog Recriwtio yn eich ffonio am sgwrs fer fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a gallwn esbonio’r broses. O’r fan honno, byddan nhw’n dod i ymweld â chi’n bersonol am sgwrs fanylach i ddod i’ch adnabod chi a’ch teulu ychydig yn well.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan Maethu Cymru a chliciwch drwodd i’ch awdurdod lleol perthnasol.