blog

pam fy mod yn maethu gyda fy awdurdod lleol

Rydyn ni wedi bod yn siarad â’n rhieni maeth ac yn dysgu rhagor am pam y gwnaethon nhw benderfynu maethu, yn enwedig y rhai sydd wedi newid trywydd eu bywydau ac wedi gwneud newid sylweddol i ddod yn rhieni maeth.

Cymeradwywyd Jen o Ben-y-bont ar Ogwr yn 2020 ac mae’n un o’n gofalwyr a gymeradwywyd yn ystod pandemig Covid-19. Croesawodd Jen a’i mab ifanc blentyn lleol i’w cartref ym mis Rhagfyr 2020, ac mae’r plentyn yn dal i fod gyda nhw ar hyn o bryd.

Two brothers making a sandcastle on the beach

Pam penderfynoch chi faethu?

“Roeddwn i’n gweithio fel Rheolwr i gwmni hyfforddi o’r blaen, ac roedd yn swydd llawn straen ac yn brysur.

Yn ystod y cyfyngiadau yn gynnar yn 2020, gostyngwyd fy oriau ac roeddwn i’n gweithio gartref. Roeddwn i’n mwynhau’r newid mewn cyflymder a’r cyfle i dreulio rhagor o amser gartref gyda fy mab.

Pan ges i fy niswyddo ym mis Mehefin 2020, penderfynais beidio â chwilio am swydd debyg ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a oedd yn rhoi mwy o amser i mi gartref a rhywbeth mwy ystyrlon. Roedd maethu yn rhywbeth roeddwn i wedi’i ystyried yn flaenorol ond doeddwn i ddim yn fodlon rhoi’r gorau i sicrwydd swydd.

Roedd colli swydd yn gyfle i mi fynd ar drywydd maethu, a dyna oedd y sbardun imi.”

Pa mor hir oedd eich proses gymeradwyo ar gyfer maethu?

“Unwaith y penderfynais i ymchwilio i faethu, ymchwiliais at ba gwmni i fynd ato, a chysylltais â’r awdurdod lleol ar ddechrau Mehefin 2020.

Cymerodd fy asesiad a hyfforddiant tua 5-6 mis a chefais fy nghymeradwyo ym mis Tachwedd 2020, ac roedd fy lleoliad cyntaf tua 3 wythnos yn ddiweddarach yn Rhagfyr 2020. Mae’r plentyn yn dal i fyw gyda ni.”

Ydy cael eich plant eich hun yn eich rhwystro rhag maethu?

Mae dynameg pob teulu yn wahanol. Mae gan rai o’n teuluoedd maeth blant yn barod, mae gan rai blant sy’n byw gyda nhw, mae gan rai blant hŷn sydd wedi gadael cartref, ac mae rhai heb blant eu hunain. Yr unig beth rydyn ni’n gofyn amdano yw bod gyda chi ystafell sbâr i’r plentyn maeth gael ei le ei hun.

Qweler ein cwestiynau cyffredin i ddysgu mwy.

Rhannodd Jen ychydig o wybodaeth gefndirol gyda ni am ddeinameg ei theulu:

“Rwy’n rhiant sengl sy’n byw gyda fy mab 7 oed sy’n ddi-eiriau ac yn awtistig.

Rwy’n dal i weithio ond yn rhan-amser mewn rôl weinyddol i’r GIG sy’n weddol hyblyg ac yn gweithio gartref.

Weithiau mae’n anodd trefnu dau blentyn sy’n mynd i ddwy ysgol wahanol a gweithio swydd ran amser ond mae mam yn byw gerllaw ac mae hi yno i gefnogi a rhoi cymorth gwych!”

Sut mae maethu yn cymharu â’ch rôl flaenorol?

“Mae maethu yn brysur, yn feichus ac yn straen ar brydiau… ond mae’n hollol wahanol, ac yn fwy gwerth chweil na swydd 9-5 draddodiadol.

Mae’n debycach i fod yn rhiant proffesiynol, darparu gofal a chymorth ac amgylchedd cartref cadarnhaol.”

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich taith faethu?

“Mae maethu yn werth chweil ac yn ystyrlon gan fod modd ichi ddarparu gofal a chymorth ac amgylchedd diogel i rywun sydd ei angen.

Mae modd cael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun a gweld plentyn yn ymgartrefu a ffynnu o ganlyniad i’ch gofal.”

Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud wrthon ni?

“Mae bod yn rhiant maeth yn gofyn am sgiliau trefnu a magu plant da. Mae’n ymwneud â darparu amgylchedd diogel, sicr, cadarnhaol a gofalgar i rywun sydd ei angen.”

Nid yw’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi mynd fel yr oeddem ni i gyd wedi’i gynllunio, ond nawr yn 2022 nid oes amser gwell i gael golwg newydd ar fywyd.

Ydy hi’n bryd newid?

Yn sefydliad Maethu Cymru Pen-y-Bont, rydyn ni’n gofyn i chi ystyried y posibilrwydd o groesawu plentyn, neu blant, lleol i’ch cartref, er mwyn darparu amgylchedd sefydlog a gofalgar ar eu cyfer. Bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi os ydych chi’n angerddol am helpu eraill ac eisiau cychwyn ar daith gwerth chweil a boddhaus wrth helpu i lywio dyfodol plant lleol.

Mae digon o wybodaeth ar ein gwefan ond rydyn ni’n eich annog chi i gysylltu, gofyn cwestiynau a dechrau’r sgwrs am faethu gyda ni!

Rydyn ni eisiau helpu cynifer o blant lleol â phosib, ac mae’r cyfan yn dechrau gyda thi yn 2022.

Story Time

Stories From Our Carers